Nid ydych wedi defnyddio'r ffurflen hon ers tro - i amddiffyn eich data, bydd y sesiwn ffurflen yn dod i ben yn fuan
Mae rhai o'r cwcis hyn yn hanfodol, tra bydd eraill yn ein helpu i wella'ch profiad trwy adael i ni weld sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio
Am wybodaeth fanylach, gwelwch y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi gweithrediadau craidd megis mewngofnodi i'r wefan.
Ni fydd y wefan yn gweithio'n iawn heb y cwcis yma, ac ni allant ond cael eu hanalluogi trwy newid dewisiadau'ch porwr.
Hoffem osod cwcis Google Analytics i'n cynorthwyo i wella ein gwefan trwy gasglu ac adrodd gwybodaeth ar sut ry'ch chi'n ei defnyddio.
Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn dull nad yw'n datgelu enw neb.
I gael mwy o wybodaeth ar sut mae'r cwcis hyn yn gweithio, edrychwch ar y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Cadwyd eich dewisiadau cwcis
Dyddiad Cau: 06/10/2024
Lawrlwythwch (CHL0420 Cym Swydd Ddisgrifiad 4.pdf)
Lawrlwythwch (CHL0420 Eng Job Description 4.pdf)
Ymunwch â'n digwyddiad recriwtio! Gallwch gael gwybod mwy am y swydd wag hon a swyddi tebyg eraill yn ein digwyddiad recriwtio Gwasanaethau Plant ar-lein ar 26 Medi 2024. Ewch i https://cy.powys.gov.uk/gc-digwyddiadau am fanylion.
Mae premiwm ychwanegol yn y farchnad yn berthnasol i Thimau - bydd hyn yn cael ei drafod yn y cyfweliad
Am y rôl:
Prif rôl y Gweithiwr Cymdeithasol - Dyletswydd ac Asesu yw cynnal asesiadau Gofal a Lles ac ymchwiliadau Amddiffyn Plant Adran 47. Mae'r rôl yn gofyn i chi fod yn rhan o rota dyletswydd. Mae'r tîm yn gefnogol iawn ac yn gweithio'n fyfyriol iawn ac yn agored gyda'i gilydd. Mae pawb yn gwerthfawrogi goruchwyliaeth ffurfiol ac anffurfiol ar achosion lle gellir rhannu syniadau a gwybodaeth.
Amdanoch chi:
Bydd angen y sgil ar unrhyw Weithiwr Cymdeithasol sy'n gwneud cais am swydd yn y tîm asesu i gefnogi teuluoedd i ddod o hyd i atebion i unrhyw angen sy'n dod Ii’r amlwg neu risg tuag at blentyn. Gallu hwyluso cyfarfodydd rhwydwaith teuluol a defnyddio cwestiynau sy'n seiliedig ar gryfder i geisio ffyrdd o reoli neu leihau risgiau. Bod yn chwaraewr tîm gyda'r gallu i weithio gydag ystod o weithwyr proffesiynol o wahanol asiantaethau ond hefyd y gallu i weithio'n annibynnol yn ôl y gofyn. Dull hyblyg o weithio ac agwedd bositif.
Yr hyn y byddwch yn ei wneud:
Prif rôl y Gweithiwr Cymdeithasol - Dyletswydd ac Asesu yw cynnal asesiadau Gofal a Lles ac ymchwiliadau Amddiffyn Plant Adran 47. Byddwch yn gweithio'n agos gydag asiantaethau partner lle mae perthnasoedd da eisoes wedi'u datblygu ac mae'r timau'n gweithio'n dda iawn gyda chydweithwyr yn yr Heddlu, iechyd ac addysg. Mae'r tîm yn defnyddio Cynllunio Diogelwch gyda theuluoedd sydd wedi'u grymuso i chwilio am atebion i sefyllfaoedd lle gallai plentyn gael ei ystyried i fod mewn angen neu mewn perygl. Ein hethos yw grymuso teuluoedd a, lle bo angen, chwilio am yr adnoddau a'r gwasanaethau i ddiwallu anghenion eu plentyn. Rydym yn cynnal cyfarfodydd tîm misol ond hefyd sesiynau dal i fyny rheolaidd fel tîm.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â:
Samantha Palmer
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS
Cyflog: Graddfa 11 Pwynt 30 i Bwynt 32 £38,223 i £40,221 y flwyddyn £19.81 i £20.84 yr awr
Rhannu'r dudalen hon
Argraffu