Nid ydych wedi defnyddio'r ffurflen hon ers tro - i amddiffyn eich data, bydd y sesiwn ffurflen yn dod i ben yn fuan
Mae rhai o'r cwcis hyn yn hanfodol, tra bydd eraill yn ein helpu i wella'ch profiad trwy adael i ni weld sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio
Am wybodaeth fanylach, gwelwch y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi gweithrediadau craidd megis mewngofnodi i'r wefan.
Ni fydd y wefan yn gweithio'n iawn heb y cwcis yma, ac ni allant ond cael eu hanalluogi trwy newid dewisiadau'ch porwr.
Hoffem osod cwcis Google Analytics i'n cynorthwyo i wella ein gwefan trwy gasglu ac adrodd gwybodaeth ar sut ry'ch chi'n ei defnyddio.
Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn dull nad yw'n datgelu enw neb.
I gael mwy o wybodaeth ar sut mae'r cwcis hyn yn gweithio, edrychwch ar y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Cadwyd eich dewisiadau cwcis
Dyddiad Cau: 18/03/2026
Lawrlwythwch (RLA0449 Eng Job Description 2.pdf)
Lawrlwythwch (RLA0449 Cym Swydd Ddisgrifiad 2.pdf)
Am y rôl: Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth cymorth gweinyddol/digidol effeithlon ac effeithiol i Wasanaethau Diwylliannol (amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau, celfyddydau). Amdanoch chi: • Yn gymwys i ddefnyddio ystod eang o systemau ac adnoddau digidol • Gwybodaeth am sut i gynnal a diweddaru cynnwys y we, a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol • Y gallu i gysylltu'n rhagweithiol â chydweithwyr i chwilio am wybodaeth • Gallu creadigol i gynhyrchu deunydd ar-lein sy’n ddeniadol ac sy'n ennyn diddordeb • Sylw rhagorol i fanylion Eich dyletswyddau: • Cynorthwyo gyda chynnal a chadw a diweddaru gwefan Stori Powys, llwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Gwasanaethau Diwylliannol, a gwefan Chwilio Drwy'r Asedau • Darparu cymorth gweinyddol i'r Grŵp Presenoldeb Digidol Gwasanaethau Diwylliannol, a'r Grŵp Strategol Stori Ddigidol. • Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer ceisiadau grant sy'n cefnogi cyflawni'r Strategaeth Ddigidol Gwasanaethau Diwylliannol. Am ragor o wybodaeth am y swydd, gallwch gysylltu â: Nichola Farr Recruitment@powys.gov.uk
Nid oes gan y swydd hon ofyniad am unrhyw Wiriad DBS.
Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i bwynt 9 £26,403 i £27,254 y flwyddyn pro rata £13.68 i £14.12 yr awr
Sylwch: ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Sir Powys yn derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Crefftus er mwyn cael hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn ymgeisio am swydd.