Lawrlwythwch (SYR0077 Eng Job Description.pdf)
Lawrlwythwch (SYR0077 Cym Swydd Ddisgrifiad.pdf)
Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
O dan arweiniad yr Unigolyn Cyfrifol, Pennaeth neu unrhyw uwch aelod o staff arall, neu lywodraethwr, eich rôl bydd cydlynu a bod yn gyfrifol am redeg y lleoliad o ddydd i ddydd gan sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel. Darparu amgylchedd cynnes a chroesawgar o fewn y lleoliad lle gall plant a gofalwyr teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a chael cymorth a chefnogaeth gadarnhaol trwy amrywiaeth o weithgareddau.
Bod yn gyfrifol am reoli’r amgylchedd dysgu e.e. sefydlu/paratoi/cynnal adnoddau dysgu, creu arddangosfeydd o waith plant, paratoi, cynnal a gwerthuso meysydd o ddarpariaeth barhaus.
Ymgymryd â thasgau gweinyddol angenrheidiol gan gynnwys cwblhau ffurflenni a threfniadau derbyn.
Sicrhau bod y lleoliad yn ddiogel, trefnus ac yn cael ei gynnal a’i gadw bob amser.
Sicrhau y cydymffurfir â pholisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud ag amddiffyn plant, iechyd,
diogelwch a diogeledd, cyfrinachedd a diogelu data, a bod unrhyw bryderon yn cael eu
hadrodd, fel y bo’n briodol.
Sicrhau bod darpariaeth yn bodloni polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau AGC.
Bod yn gyfrifol am hunanwerthuso’r ddarpariaeth yn unol ag arweiniad AGC a/neu Estyn
Bod yn gyfreithiol gyfrifol fel y ‘Person â Chyfrifoldeb’ o dan reoliadau AGC.
Bod yn gyfrifol am gynllunio, adolygu a chyflwyno profiadau chwarae o ansawdd da / y
cwricwlwm Dysgu Sylfaen a gyda gofal disgyblion, iechyd, diogelwch, lles, cymorth emosiynol
ac ymddygiad.
Bod yn gyfrifol am arsylwadau, asesiadau a chadw cofnodion rheolaidd, a darparu gwybodaeth
berthnasol ar lafar/ysgrifenedig i gyfrannu at gynllunio a gwerthuso, er mwyn nodi camau nesaf
dysgu’r plant.
Bod yn gyfrifol am roi gwybod i rieni am gynnydd plant a darparu adroddiadau ysgrifenedig yn
ôl yr angen.
Bod yn gyfrifol am reoli ymddygiad plant.
Bod yn gyfrifol am sicrhau bod byrbrydau addas yn cael eu darparu a'u paratoi a bod amser
bwyd yn cael ei oruchwylio, gan gydymffurfio â rheoliadau'r Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i’r swydd hon
Cyflog: Graddfa 6
Pwynt 11 i Bwynt 14
£28,142 i £29,540 y flwyddyn ar gyfartaledd
£14.58 i £15.31 yr awr
Sylwch: ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Sir Powys yn derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Crefftus er mwyn cael hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn ymgeisio am swydd.
Yr hyn rydym yn ei gynnig
- Byddwn yn eich hyfforddi chi ac yn datblygu eich sgiliau
- Gweithio Hyblyg
- Cynllun Pensiwn gyda buddion diffiniedig gwarantedig
- Dysgu a Datblygu
- Cynllun Ceir Prydles
- Cyflog Cystadleuol
- Lle gwych i fyw
- Cynllun Gwobrau Cyngor Sir Powys
- Iechyd a Lles
- Buddion Aberthu Cyflog