Nid ydych wedi defnyddio'r ffurflen hon ers tro - i amddiffyn eich data, bydd y sesiwn ffurflen yn dod i ben yn fuan
Mae rhai o'r cwcis hyn yn hanfodol, tra bydd eraill yn ein helpu i wella'ch profiad trwy adael i ni weld sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio
Am wybodaeth fanylach, gwelwch y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi gweithrediadau craidd megis mewngofnodi i'r wefan.
Ni fydd y wefan yn gweithio'n iawn heb y cwcis yma, ac ni allant ond cael eu hanalluogi trwy newid dewisiadau'ch porwr.
Hoffem osod cwcis Google Analytics i'n cynorthwyo i wella ein gwefan trwy gasglu ac adrodd gwybodaeth ar sut ry'ch chi'n ei defnyddio.
Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn dull nad yw'n datgelu enw neb.
I gael mwy o wybodaeth ar sut mae'r cwcis hyn yn gweithio, edrychwch ar y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Cadwyd eich dewisiadau cwcis
Dyddiad Cau: 06/10/2024
Lawrlwythwch (CHL0521 Eng Job Description.pdf)
Lawrlwythwch (CHL0521 Cym Swydd Ddisgrifiad.pdf)
Ymunwch â'n digwyddiad recriwtio! Gallwch gael gwybod mwy am y swydd wag hon a swyddi tebyg eraill yn ein digwyddiad recriwtio Gwasanaethau Plant ar-lein ar 26 Medi 2024. Ewch i https://cy.powys.gov.uk/gc-digwyddiadau am fanylion.
Mae premiwm ychwanegol yn y farchnad yn berthnasol i Thimau - bydd hyn yn cael ei drafod yn y cyfweliad
Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys: Un grŵp o staff o fewn y sector gofal cymdeithasol yw Gweithwyr Cymdeithasol. Yn bennaf trwy Weithwyr Cymdeithasol y bydd Awdurdodau Lleol yn cyflawni eu goblygiadau statudol o dan Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac eraill. Diben cyffredinol y swydd Gweithiwr Cymdeithasol o fewn Gwasanaethau Plant yw asesu, asesu risg a chyflwyno gwasanaeth i blant a’u teuluoedd, gan gadw plant o fewn eu teuluoedd, lle bo hynny’n bosibl. Mewn sefyllfaoedd lle na ellir rheoli’r risg, bydd angen datblygu cynlluniau i gadw plant yn ddiogel ac i allu cyflawni eu potensial llawn. Wrth wneud hyn, rhaid i’r Gweithiwr Cymdeithasol gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol, ynghyd â Pholisïau a Gweithdrefnau Cyngor Sir Powys. Cyflwyno gwasanaeth gwaith cymdeithasol i blant a phobl ifanc unigol gyda’r bwriad o’u cadw’n ddiogel a’u galluogi i gyflawni eu potensial llawn o fewn lleoliad sy’n cynnig parhauster cyfreithiol. Gweithio fel rhan o dîm, gan gyflawni tasgau ar sail dyletswydd gyda rota, a chynnig gwaith llanw ar gyfer cydweithwyr sy’n absennol. Meithrin a chynnal perthnasoedd gwaith da gyda chydweithwyr a phartneriaid sy’n galluogi’r tîm i weithio’n effeithiol. Dynodi ffactorau risg o ran amgylchiadau plant unigol, a sicrhau fod diogelu ar waith er mwyn lleihau’r risg.
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS
Cyflog: Graddfa 11 Pwynt 30 i Bwynt 32 £38,223 i £40,221 y flwyddyn £19.81 i £20.84 yr awr
Rhannu'r dudalen hon
Argraffu