Nid ydych wedi defnyddio'r ffurflen hon ers tro - i amddiffyn eich data, bydd y sesiwn ffurflen yn dod i ben yn fuan
Mae rhai o'r cwcis hyn yn hanfodol, tra bydd eraill yn ein helpu i wella'ch profiad trwy adael i ni weld sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio
Am wybodaeth fanylach, gwelwch y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi gweithrediadau craidd megis mewngofnodi i'r wefan.
Ni fydd y wefan yn gweithio'n iawn heb y cwcis yma, ac ni allant ond cael eu hanalluogi trwy newid dewisiadau'ch porwr.
Hoffem osod cwcis Google Analytics i'n cynorthwyo i wella ein gwefan trwy gasglu ac adrodd gwybodaeth ar sut ry'ch chi'n ei defnyddio.
Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn dull nad yw'n datgelu enw neb.
I gael mwy o wybodaeth ar sut mae'r cwcis hyn yn gweithio, edrychwch ar y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Cadwyd eich dewisiadau cwcis
Dyddiad Cau: 25/05/2026
Lawrlwythwch (SPP0031 Cym Swydd Ddisgrifiad.pdf)
Lawrlwythwch (SPP0031 Eng Job Description.pdf)
Mae’r dyddiad cau ar gyfer y rôl wedi cael ei ymestyn, dyma’r dyddiadau newydd –Dyddiad cau: 25/05/2026Dyddiad creu rhestr fer: 26/05/2026Cyfweliadau: 03/06/2026
Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
Am y rôl: Byddwch yn weithiwr proffesiynol profiadol a hyderus gyda dealltwriaeth gref o ddeddfwriaeth y Gymraeg, cynllunio iaith a datblygu polisïau yng nghyd-destun llywodraeth leol. Byddwch yn hyderus wrth gynghori uwch swyddogion, Cynghorwyr a phartneriaid allanol, ac yn gallu cydbwyso meddwl yn strategol â chyflawni gweithredol. Mae'r swydd yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo, ymgorffori a chryfhau'r defnydd o'r Gymraeg ar draws gwasanaethau'r Cyngor ac yn y gymuned ehangach, gan gefnogi canlyniadau gwell i bobl Powys. Bydd deilydd y swydd hefyd yn rheoli dau Swyddog Datblygu'r Gymraeg, gan gefnogi cyflawni gweithgarwch hyrwyddo'r Gymraeg ar lefel leol. Amdanoch chi: Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol deinamig, profiadol a hyderus sy'n gallu dylanwadu ac ysgogi eraill yn effeithiol, bydd gan yr ymgeisydd delfrydol sgiliau Cymraeg rhagorol ac yn angerddol am hyrwyddo'r iaith a chynyddu ei defnydd ar draws y sir. Eich dyletswyddau: • Darparu cyngor technegol ar weithredu ein dyletswyddau statudol yn effeithiol o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan ysgogi datblygiad gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ac i gefnogi'r Cynllun Cydraddoldeb Corfforaethol a Strategol. • Monitro cydymffurfiaeth y cyngor â Safonau'r Gymraeg statudol, a chyhoeddi Adroddiad blynyddol ar Safonau'r Gymraeg • Cefnogi integriti a hygyrchedd cyffredinol y Gymraeg wrth gyfrannu at ganlyniadau gwell i bobl Powys • Hyrwyddo'r Gymraeg, gan sicrhau mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg drwy weithgareddau'r Cyngor, ac o fewn y gymuned ehangach drwy weithio gyda sefydliadau partner i gynyddu defnydd o'r Gymraeg ym Mhowys Am ragor o wybodaeth am y swydd, gallwch gysylltu â: Catherine James, Pennaeth Deallusrwydd Busnes a Llywodraethu. E-bost: catherine.james@powys.gov.uk neu ffôn: 01597 826 768
Nid oes angen Gwiriad y DBS ar gyfer y swydd hon.
Cyflog: Graddfa 11 Pwynt 30 i Bwynt 32 £40,777 i £42,839 y flwyddyn £21.13 i £22.20 yr awr
Sylwch: ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Sir Powys yn derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Crefftus er mwyn cael hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn ymgeisio am swydd.