Lawrlwythwch (BWL0005 Cym Swydd Ddisgrifiad.pdf)
Neges groeso
Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
Am y rôl:
Byddwch yn gweithio fel cyfieithydd mewn tîm bach ymroddedig mewn amgylchedd prysur iawn i ddarparu gwasanaeth cyfieithu dwyieithog proffesiynol o’r radd flaenaf i'r cyngor er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau dwyieithog i'n cymunedau a'n staff a chyfrannu at ddatblygu gwasanaethau Cymraeg Powys.
Amdanoch chi:
- Sgiliau iaith rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan gynnwys sgiliau gramadegol ac ieithyddol gadarn
- Gradd yn y Gymraeg neu gymhwyster Cymraeg cyfatebol neu brofiad o gyfieithu
- Gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm
- Profiad blaenorol o weithio mewn Llywodraeth Leol ac o ddarparu cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd
- Gallu ymdopi ag amgylchedd gwaith prysur a llwythi gwaith trwm.
- Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Eich dyletswyddau:
Cyfieithu dogfennau’r Cyngor o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg, gan sicrhau’r defnydd o’r iaith a’r cywair priodol i’r gynulleidfa darged.
Sicrhau bod y gwaith cyfieithu sy’n cael ei gynhyrchu yn gywir ac wedi ei brawf-ddarllen cyn ei ddychwelyd i’r cleient a hynny’n brydlon ac o fewn targedau’r Uned Gyfieithu.
Defnyddio creadigrwydd a meddwl o’r newydd wrth gyfieithu sloganau, is-benawdau ac enwau prosiectau. Ymchwilio i derminoleg gywir enwau lleoedd / enwau strydoedd.a chydweithio ag Adrannau’r cyngor wrth awgrymu enwau ar gyfer datblygiadau newydd sydd i’w hystyried gan gynghorau tref/cymuned, gan sicrhau bod yr ystyr cywir yn cael ei gyfleu.
Gweinyddu system yr Uned Gymraeg ar dderbyn a dychwelyd a chofnodi gwaith cyfieithu, a blaenoriaethu gwaith fel bo’r angen, er mwyn gallu adroddad ar berfformiad yr Uned.
Cydymffurfio â pholisi cyfrinachedd y Cyngor o ran gwaith cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd o’r Cyngor.
Darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg mewn cyfarfodydd a chynadleddau gan ddefnyddio iaith a geirfa briodol. Gallu i ddefnyddio offer cludadwy cyfieithu ar y pryd, offer yn siambr y cyngor ac ar Zoom a Teams.
Os hoffech drafod y rôl, mae croeso i chi gysylltu â Carol Davies, Rheolwr yr Uned Gymraeg/Uwch Gyfieithydd am sgwrs anffurfiol 01597 826466.
Rydym wedi estyn y dyddiad cau tan 01 Hydref 2023
Cyflog: Graddfa 8
Pwynt 19 i Bwynt 22
£27,852 i £29,439 y flwyddyn ar gyfartaledd
£14.44 i £15.26 yr awr
Yr hyn rydym yn ei gynnig
- Byddwn yn eich hyfforddi chi ac yn datblygu eich sgiliau
- Gweithio Hyblyg
- Cynllun Pensiwn gyda buddion diffiniedig gwarantedig
- Dysgu a Datblygu
- Cynllun Ceir Prydles
- Cyflog Cystadleuol
- Lle gwych i fyw
- Cynllun Gwobrau Cyngor Sir Powys
- Iechyd a Lles
- Buddion Aberthu Cyflog