Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Os oes gennych Fy Nghyfrif Powys, cymerwch ran yn ein harolwg os gwelwch yn dda

Dywedwch wrthym am ddigwyddiad rydych chi'n ei gynllunio!

Rydym wedi llunio rhestr wirio ddefnyddiol i'ch helpu gyda'r cais, i sicrhau bod gennych y trwyddedau cywir yn barod cyn cychwyn ar y ffurflen.

Cau ffyrdd: Sicrhewch eich bod yn gofyn am gau ffordd o leiaf 10 wythnos cyn eich digwyddiad. Gallwch wneud hyn drwy ein tudalen yn https://cy.powys.gov.uk/article/6001/Gofyn-am-gau-ffordd neu drwy lenwi'r ffurflen isod gallwn gyflwyno eich cais ar eich rhan

Bwyd: Os bydd bwyd yn cael ei weini ar ôl 23:00, sicrhewch fod gennych y drwydded gywir ar waith. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma https://cy.powys.gov.uk/article/5356/Trwyddedau-eiddo

Cerddoriaeth: Os yw eich busnes yn gwerthu alcohol neu'n darparu adloniant neu fwyd neu ddiod hwyr y nos, mae angen trwydded mangre arnoch. Efallai y bydd angen trwyddedau mangre ar gyfer digwyddiadau untro mawr hefyd. Gallwch wneud cais drwy ein tudalennau https://cy.powys.gov.uk/article/5356/Trwyddedau-eiddo

Tir sy'n eiddo i Gyngor Sir Powys: Mae'r tîm Hamdden Awyr Agored yn gyfrifol am reoli nifer fawr o gyfleusterau amwynder cyhoeddus ledled Powys; Mae hyn yn cynnwys parciau a mannau agored, ardaloedd chwarae, caeau chwaraeon, coetiroedd, rhandiroedd a hyd yn oed Gwarchodfa Natur Leol; Mae rhai o'r cyfleusterau hyn ar gael i'w llogi ar gyfer digwyddiadau cymunedol;  https://cy.powys.gov.uk/article/3463/Llogi-tir-ar-gyfer-achlysuron-cymunedol! eu drwy lenwi'r ffurflen isod gallwn gyflwyno eich cais ar eich rhan

Os nad ydych yn siŵr a yw'r ardal a osodwyd ar gyfer eich digwyddiad yn dod o dan awdurdodaeth Cyngor Sir Powys, gallwch wirio drwy edrych ar ein map 'lle chwarae agored' a ganfuwyd ar dudalen we'r lle chwarae agored (yn agor mewn ffenestr newydd)

Gallwch gadw'r wybodaeth yr ydych yn ei hychwanegu at y ffurflen wrth i chi ei llenwi, a byddwch yn cael e-bost gyda dolen i gael mynediad ati'n ddiweddarach. Os yw'n well gennych, mewngofnodwch i'ch 'Fy Nghyfri Mhowys' a dod o hyd i'r ffurflen yn 'Fy Ffurflen Wedi'i Chadw'

Dywedwch wrthym am eich digwyddiad yma Ffurflen Hysbysu Digwyddiad

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu