Nid ydych wedi defnyddio'r ffurflen hon ers tro - i amddiffyn eich data, bydd y sesiwn ffurflen yn dod i ben yn fuan
Mae rhai o'r cwcis hyn yn hanfodol, tra bydd eraill yn ein helpu i wella'ch profiad trwy adael i ni weld sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio
Am wybodaeth fanylach, gwelwch y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi gweithrediadau craidd megis mewngofnodi i'r wefan.
Ni fydd y wefan yn gweithio'n iawn heb y cwcis yma, ac ni allant ond cael eu hanalluogi trwy newid dewisiadau'ch porwr.
Hoffem osod cwcis Google Analytics i'n cynorthwyo i wella ein gwefan trwy gasglu ac adrodd gwybodaeth ar sut ry'ch chi'n ei defnyddio.
Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn dull nad yw'n datgelu enw neb.
I gael mwy o wybodaeth ar sut mae'r cwcis hyn yn gweithio, edrychwch ar y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Cadwyd eich dewisiadau cwcis
Bydd y Crosskeys Llanfyllin yn cynnig man cynnes yn eu Tŷ Coffi a Hyb Cymunedol, a oedd yn hen dafarn. Mae llawer o weithgareddau cymunedol yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos gan gynnwys sesiwn crefftau awyr las, sesiynau rhieni a phlant bach, clwb canasta, tennis bwrdd, clybiau llyfrau ac ati. Mae Wi-Fi a chyfarpar am ddim ar gael i’w defnyddio gan bobl os nad oes ganddynt gyfarpar eu hunain. Ar ddydd Mawrth, cynhelir Nosh Da. Cinio un potyn yw hwn a’r holl ddiodydd (amrywiaeth eang o ddiodydd poeth ac oer). Diodydd di-alcohol ydyn nhw. Gellir mwynhau cacennau a byrbrydau a’r prif ginio ar sail talu fel yr ydych yn teimlo/fel yr ydych yn gallu. Maen nhw hefyd yn gweithredu cynllun talu dros eraill lle y gall unrhyw un brynu diod / cacen / pryd o fwyd i rywun arall ei fwynhau. Mae’r Crosskeys yn dibynnu ar reiddiaduron wal trydanol a lenwir ag olew fel ei brif ffynhonnell gwres ond mae tân agored hefyd a ddefnyddir yn ystod misoedd y gaeaf i gynyddu’r cynhesrwydd a’r awyrgylch yn yr adeilad. Maen nhw hefyd wedi sefydlu man ar gyfer swyddfa fechan a ddefnyddir gan PAVO (2 ddiwrnod yr wythnos), hanner diwrnod gan POBL ac rydym mewn trafodaeth gyda Kaleidoscope i ddefnyddio’r lle hwn hefyd. Maen nhw wedi cofrestru mewn partneriaeth gyda BRACE fel Oergell gymunedol. Mae’r arhosfan bws yn union y tu allan i’n heiddio. Fe’i gwasanaethir gan fysys Tanat Valley ac maen nhw’n rhedeg bws dychwelyd i’r Trallwng, Yr Amwythig a Chroesoswallt trwy bentrefi bychain ac aneddiadau llai. Pan maen nhw ar agor fel tŷ coffi, nid oes disgwyliad i unrhyw un orfod prynu neu gyfrannu i ddefnyddio’r lle. Wrth gwrs, fel Cwmni Budd Cymunedol (CIC), byddai unrhyw gyfraniadau yr hoffai unrhyw un/ unrhyw sefydliad arall ei wneud yn cael ei groesawu.
darren mayor 07891592710 thecrosskeysllanfyllin@btinternet.com
Cyfeiriad
THE CROSSKEYS,HIGH STREET,LLANFYLLIN,SY22 5AT
https://www.thecrosskeysllanfyllin.co.uk/
Opening hours
Dydd Mawrth – dydd Gwener 10am - 5pm
Cliciwch a llusgo i symud y map, chwyddo i mewn ac allan gan ddefnyddio'ch olwyn sgrolio neu'r botymau chwyddo.
Rhannu'r dudalen hon
Argraffu