Nid ydych wedi defnyddio'r ffurflen hon ers tro - i amddiffyn eich data, bydd y sesiwn ffurflen yn dod i ben yn fuan
Mae rhai o'r cwcis hyn yn hanfodol, tra bydd eraill yn ein helpu i wella'ch profiad trwy adael i ni weld sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio
Am wybodaeth fanylach, gwelwch y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi gweithrediadau craidd megis mewngofnodi i'r wefan.
Ni fydd y wefan yn gweithio'n iawn heb y cwcis yma, ac ni allant ond cael eu hanalluogi trwy newid dewisiadau'ch porwr.
Hoffem osod cwcis Google Analytics i'n cynorthwyo i wella ein gwefan trwy gasglu ac adrodd gwybodaeth ar sut ry'ch chi'n ei defnyddio.
Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn dull nad yw'n datgelu enw neb.
I gael mwy o wybodaeth ar sut mae'r cwcis hyn yn gweithio, edrychwch ar y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Cadwyd eich dewisiadau cwcis
Mae Oriel Davies yn cynnig Man Cynnes yn yr Oriel. Gallwch ddisgwyl awyrgylch cynnes, croesawgar a chyfeillgar. Does dim rhaid i chi gael rheswm i ymweld ag Oriel Davies i dreulio amser yno a chadw’n gynnes – ewch i mewn, gwnewch eich hun yn gyfforddus a gadewch i’r staff wybod a oes angen unrhyw help arnoch chi (bydd y staff yn gwisgo crys chwys gyda DAVIES wedi ei ysgrifennu ar y cefn). Dyma beth sy’n cael ei gynnig: arddangosfeydd AM DDIM i’w gweld a chaffi â gwresogi o dan y llawr. Ceir rhaglen o ddigwyddiadau, lawer ohonynt am ddim, y gallwch arwyddo amdanynt ac ymuno â hwy. Mae ganddynt wybodaeth am ‘fanciau cynnes’ â rhagor o adnoddau gerllaw, manylion am sefydliadau cefnogi yn yr ardal, ac hysbysfwrdd cymunedol ar gyfer gwybodaeth am bethau sy’n digwydd mewn llefydd eraill. Mae yno doiled hygyrch niwtral o ran rhywedd. Maen nhw hefyd yn darparu blancedi cnu o ddeunydd sydd wedi ei ailgylchu 100%. Mae croeso i chi ddod â’ch dyfeisiadau llaw i’w gwefru a defnyddio’r Wi-Fi am ddim. Maen nhw’n edrych ymlaen at eich gweld chi!Mae Gorsaf Fysiau y Drenewydd yn union tu allan i’r oriel.
Deborah Dalton 01686625041 deborah@orieldavies.org
Cyfeiriad
ORIEL DAVIES GALLERYTHE PARKBACK LANENEWTOWNSY16 2NZ
https://orieldavies.org/
Opening hours
Mawrth - Sadwrn: 11:00 - 16:00Caffi - Mawrth - Dydd Sadwrn: 11:00 - 15:00
Cliciwch a llusgo i symud y map, chwyddo i mewn ac allan gan ddefnyddio'ch olwyn sgrolio neu'r botymau chwyddo.