Llyfrgell Ystradgynlais
Bydd Llyfrgell Ystradgynlais ar gau rhwng dydd Sul 7 Ionawr tan ddydd Sul 14 Ebrill 2024 tra bod gwaith a gwelliannau yn cael eu gwneud ar yr adeilad a'r cyfleusterau. Disgwylir y bydd oriau agor arferol yn ailddechrau o ddydd Llun 15 Ebrill 2024.
Yn ystod y cyfnod cau, byddwch yn gallu parhau i ddefnyddio gwasanaethau'r llyfrgell mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys adleoli rhai gwasanaethau'r llyfrgell i'r Neuadd Les, Heol Aberhonddu, Ystradgynlais, Abertawe, Powys, SA9 1JJ fel a ganlyn:
- Benthyg a dychwelyd llyfrau.
- Gliniaduron gyda WIFI am ddim.
- Argraffu lliw, sganio a llungopio.
- Defnyddio Pwynt Mynediad Gwasanaethau Cwsmer.
- Benthyciadau Technoleg Digidol.
Gallwch hefyd fenthyg a lawrlwytho eLyfrau, eLyfrauLlafar ac eGylchgronau 24/7, ar-lein, yn y ffordd arferol, a defnyddio holl wasanaethau'r llyfrgell mewn unrhyw gangen arall o Lyfrgelloedd Powys.
Gallwch gysylltu â Llyfrgell Ystradgynlais Library drwy ffonio 01874 612394 neu drwy anfon e-bost ystrad.library@powys.gov.uk yn ystod ei adleoliad dros dro, ac mae'r oriau agor ar gyfer gwasanaethau llyfrgell yn y Neuadd Les fel a ganlyn:
- Dydd Llun: 10:00 - 17:00
- Dydd Mawrth: 10:00 - 17:00
- Dydd Mercher: Ar gau
- Dydd Iau: 10:00 - 17:00
- Dydd Gwener: 10:00 - 13:00
- Dydd Sadwrn: 10:00-12:30
- Dydd Sul: Ar gau
Mae'r gwelliannau i Lyfrgell Ystradgynlais wedi bod yn bosibl gan Raglen Cyfalaf Trawsnewid Diwylliannol Llywodraeth Cymru.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ewch i www.storipowys.org.uk/ystradgynlais-library.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra ac edrychwn ymlaen at eich croesawu chi yn ôl yn fuan.
Ebost: ystrad.library@powys.gov.uk
Ffôn: 01639 845353
Trwy lythyr:
Llyfrgell Ystradgynlais,
Temperance Street,
Ystradgynlais,
Powys,
SA9 1JJ
Cyfleusterau
Argraffydd, sganiwr a pheiriant llungopïo