Toglo gwelededd dewislen symudol

Tai a Thir


Os oes mater brys yn codi, fel gwaith trwsio neu ddigartrefedd ac y mae angen I chi gysylltu â ni pan fydd ein swyddfeydd ar gau ar ôl 5pm neu ar benwythnos, ffoniwch 01597 827464. 
Bydd unrhyw alwadau nad ydynt yn cael eu categoreiddio fel rhai blaenoriaeth yn cael eu trin yn ystod y bore cyntaf wedi i'r swyddfeydd ailagor ar ôl y penwythnos neu Wyl y Banc. 
Gallwch roi gwybod am argyfwng y tu allan i oriau, gan gynnwys atgyweirio tai, ar ein gwefan Llesiant Delta www.llesiantdelta.org.uk 
Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl fel y gall cynghorwyr weithredu ar eich argyfwng heb unrhyw oedi. 
Dim ond os bydd angen y byddwn yn cysylltu â chi, a hynny er mwyn sicrhau y gellir cyfeirio adnoddau i rywle arall i helpu cwsmeriaid eraill sydd angen cymorth brys