Ty'r Orsaf
Gweithwyr Gofal Preswyl
Os ydych chi'n unigolyn sy'n wirioneddol ofalgar ac yn gallu cysylltu â phobl ifanc, ac yn meddu ar agwedd 'gallaf wneud' yna mae cyfleoedd grêt gennym ni ar eich cyfer chi.
Ein Cartref
Cartref therapiwtig i blant yw Tŷ'r Orsaf ger Llanbrynmair sy'n cefnogi tri pherson ifanc, 11-18 oed sydd ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol cymhleth.
Wedi'i weithredu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, mae'n breswylfa eang gyda thair ystafell wely, llety cysgu i staff, ystafell therapi, ystafell fach gyffyrddus, ardal fyw a bwyta sy'n agor allan i ardd fawr.
Mae'r ardal allanol yn ein cartref yr un mor bwysig â'r tu mewn, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc ofalu am anifeiliaid bach a'u trin, i arddio trwy dyfu ffrwythau, llysiau a blodau; fel bod pawb yn ein cartref yn gallu mwynhau'r budd therapiwtig o awyr iach ac ymarfer corff mewn amgylchedd hardd.
Ein swyddi gwag
Rydym yn chwilio am Weithwyr Gofal Preswyl (sifftiau dydd) yn ogystal â Gweithwyr Gofal Preswyl ar gyfer sifftiau nos (sy'n derbyn cyflog 25% yn uwch).
Rydym yn chwilio am unigolion sy'n awyddus i gael swyddi llawn amser a rhan amser, yn ogystal ag oriau wrth gefn.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau arnoch ymlaen llaw, oherwydd gallwn gynnig cyfleoedd i unrhyw un sydd ar ddechrau eu gyrfa ac sy'n dymuno gweithio tuag at QCF/ NVQ Diploma Lefel 3, lle telir y costau'n llawn. Bydd angen profiad o weithio gyda phobl ifanc, ac mae'n rhaid ichi fod dros 22 oed.
I wneud cais neu i dderbyn manylion pellach, ewch i'n Tudalen swyddi Gwag:
Sifftiau dydd arferol 7.15am - 3pm a 2-10pm
9.30pm-7.30am
Bydd system rota dreigl yn cael ei gynhyrchu ar gyfer y flwyddyn galendr, gan roi cyfle i staff gynllunio ymlaen llaw i hyrwydd cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.
Hyfforddiant a chymorth
Nid oes angen unrhyw gymwysterau arnoch ymlaen llaw, oherwydd gallwn gynnig cyfleoedd i unrhyw un sydd ar ddechrau eu gyrfa ac sy'n dymuno gweithio tuag at QCF/ NVQ Diploma Lefel 3, lle telir y costau'n llawn. Bydd angen profiad o weithio gyda phobl ifanc, ac mae'n rhaid ichi fod dros 22 oed.
Byddwn yn darparu pecyn hyfforddi a chynefino cynhwysfawr a fydd yn cynnwys rheoli ymddygiad cadarnhaol, cymorth cyntaf, hyfforddiant diogelwch tân, hylendid bwyd, gofal a meddyginiaeth. Byddwch yn ymgymryd â sawl cwrs e-ddysgu gan gynnwys diogelu, seiberddiogelwch a modiwlau rhagarweiniol mewn gofal preswyl. Bydd y cwrs cynefino yn rhoi cyfle i chi ddod i adnabod eich tîm, polisïau a gweithdrefnau, a'r cartref lle byddwch yn darparu gofal.
Amserlen
Dyddiad cau: 14/07/24
Cwestiynau
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rôl, neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiiol, croeso ichi gysylltu â Jules Taylor - jules.taylor@powys.gov.uk
Diolch am eich diddordeb yn y swyddi hyn.