Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024

Rydym ni'n falch fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ym Mhowys eleni ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob rhan o Gymru i'r Maes ger Meifod rhwng 27 Mai - 1 Mehefin.

Close Carwsél oriel ddelwedd

Dyma'r tro cyntaf ers 1988 i Eisteddfod yr Urdd ymweld â'r ardal a'i chartref fydd caeau Fferm Mathrafal Farm ger Meifod.

Amcangyfrifir fod Eisteddfod yr Urdd yn dod â £6 miliwn i'r economi leol a disgwylir i 90,000 o ymwelwyr ymweld â'r ŵyl genedlaethol rhwng 27 Mai ac 1 Mehefin 2024.  

Mae'r cyngor wrth ei fodd i fod yn un o brif bartneriaid Eisteddfod yr Urdd ac rydym ni'n cydweithio'n agos â threfnwyr y ŵyl i'w wneud yn ddigwyddiad i'w gofio.

I ganfod rhagor am Eisteddfod yr Urdd ewch i www.urdd.cymru/en/eisteddfod/

Cyngor Sir Powys ar y Maes

Bydd pabell fawr gan y cyngor yn yr Eisteddfod a bydd ein presenoldeb ar y Maes yn gyfle i arddangos Powys i bawb sy'n dod - drwy flasu nwyddau lleol, twristiaeth a diwylliant a hyrwyddo'r Gymraeg a gweithgareddau Cymraeg yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd recriwtio yn y cyngor.

Sut i ddod o hyd i Faes 2024

Fyddwch chi'n teithio i'r Eisteddfod? Ewch i  www.urdd.cymru/en/eisteddfod/2024/cyrraedd-y-maes-2/ am wybodaeth am gyfarwyddiadau, maes parcio a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Urdd Gobaith Cymru

Mae Urdd Gobaith Cymru yn Sefydliad Ieuenctid Cenedlaethol Gwirfoddol â thros 55,000 o aelodau rhwng 8 - 25 mlwydd oed. Ers 1922, bu'n darparu cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru i'w galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i'w cymunedau.

Mae'r Urdd yn cynnal Eisteddfod flynyddol yn ystod hanner tymor y Sulgwyn, ac mae'n cael ei lleoli yn y Gogledd a'r De bob yn ail. Mae'r Eisteddfod yn darparu cyfle i arddangos talent Cymru o ran canu, llefaru, perfformiadau drama, dawns, cystadlaethau offerynnol, canu gwerin, yn ogystal â chystadlaethau coginio, trin gwallt, newyddiaduraeth a llawer mwy.

Tro Sir Drefaldwyn fydd e i gynnal y digwyddiad yn 2024. Dyma'r tro cyntaf ers 1988 i Eisteddfod yr Urdd ymweld â'r ardal a'i chartref fydd caeau Fferm Mathrafal Farm ger Meifod.

I gael rhagor o wybodaeth am Urdd Gobaith Cymru ewch i www.urdd.cymru

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu