Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhoi gwybod i ni am gi ar grwydr

Ci ar grwydr yw unrhyw gi sy'n cael ei ganfod mewn man lle na ddylai fod, sy'n ymddangos fel nad yw gyda'i berchennog na rhywun sy'n cynrychioli'i berchennog. Rydym yn gyfrifol am gasglu cwn ar grwydr a'u cadw nes y bydd eu perchnogion yn eu hawlio.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Os canfu eich ci yn crwydro'r strydoedd gellir ei gymryd i un o'n cytiau cŵn crwydr.  Bydd yn aros yno am saith diwrnod er mwyn  i'w berchennog ei hawlio. Bydd rhaid i chi dalu i gael hawlio eich ci. Mae hyn yn darparu ar gyfer y gost o'i gadw yn y cenel. Os na fydd ci wedi cael ei hawlio ar ôl saith diwrnod, bydd yn cael ei ailgartrefu.

Beth ydw i'n ei wneud os byddaf yn dod o hyd i gi ar grwydr?

Cysylltwch â ni. Mae ein manylion a'r ffurflen rhoi gwybod ar-lein ar ochr y dudalen hon. Byddwn yn trefnu i gasglu'r ci.

Beth ydw i'n ei wneud os byddaf yn colli fy nghi?

Cysylltwch â ni. Mae ein manylion a ffurflen rhoi gwybod ar-lein ar ochr y dudalen hon. Byddwn yn cymryd manylion eich ci ac yn croesgyfeirio'r manylion hyn gyda'r cwn yr ydym yn gofalu amdanynt eisoes. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd gennym gi sy'n debyg i'r disgrifiad o'ch ci chi yn ein cynelau.

Ffurflen Rhoi Gwybod

I roi gwybod i ni am gi ar goll neu gi ar grwydr, llenwch y ffurflen rhoi gwybod ar-lein isod.

Dweud wrthym am gi ar goll 

Dweud wrthym am gi ar grwydr 

Diweddariadau ar gynelau / contractwyr

Rheoli'r cwn ar gyfer eich cynel chi.

 

Cyswllt

  • Ebost: public.protection@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827467
  • Cyfeiriad: 
    • Sir Brycheiniog, Neuadd Brycheiniog, Cambrian Way, Aberhonddu, LD3 7HR
    • Sir Drefaldwyn, Tŷ Maldwyn, Brook Street, Y Trallwng, SY21 7PH
    • Sir Faesyfed, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys, LD1 6AA

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cyfleuster i chi gael galwad nôl.

Eich sylwadau am ein tudalennau