Biniau heb eu casglu
Ymddiheurwn am yr anghyfleustra, ond efallai na fydd casgliadau gwastraff gardd yn ardaloedd Gogledd Powys a drefnwyd ar gyfer dydd Llun 18 Awst neu ddydd Mawrth 19 Awst yn cael eu cwblhau yn ôl yr amserlen. Bydd yr holl gasgliadau'n cael eu cyflawni erbyn diwedd dydd Sul 24ain, felly cadwch eich bin(iau) allan nes y cesglir.
CEINWS, CEMMAES, GLANTWYMYN, COMMINS COCH, CWMLLINAU, DERWEN-LAS, PORTH FFRIDD, GLAS PWLL, LLANBRYNMAIR, LLANWRIN, PANTPERTHOG, TALERDDIG, CHIRBURY, YR YSTOG, YR YSTOG, ISATYN, MINSTERLEY, HEN YSTOG, PENTRE, SARN, SNEAD, DOLANOG, HIRNANT, LLANFAIR CAEREINION, LLANFIHANGEL, LLANGADFAN, LLANGYNOG, LLANWDDYN, PEN-Y-BONT-FAWR, PONT ROBERT, ALBERBURY, COEDWAY, CREW GREEN, CRUGION, TREBERFEDD
Ydych chi'n siŵr o'ch diwrnod casglu?
Gall tywydd garw effeithio ar gasgliad neu efallai bod cerbyd wedi torri i lawr neu fod gwaith ar y ffordd. defnyddiwch ein gwiriwr cod post ar-lein i gadarnhau'r trefniadau i'ch eiddo chi: Diwrnod casglu biniau
Cyn i chi roi gwybod am finiau heb eu casglu cofiwch y gallai'r criwiau casglu fod wrthi'n gweithio tan ddiwedd y diwrnod.
Cofiwch sicrhau'r canlynol:
- Bod eich blychau allan erbyn 7.30am
- Bod eich blychau yn y lle iawn
- Eich bod chi wedi cau'r caead ac nad oedd gwastraff ychwanegol nesaf i'ch bin Bod y gwastraff iawn yn y blychau iawn
Ni fydd ein criwiau'n dod yn eu holau i gasglu blychau/biniau/bagiau a roddwyd allan yn hwyr. Yn yr achos yma dylech chi fynd â'r blychau'n ôl i'r tŷ tan y diwrnod casglu nesaf. Neu gallwch chi fynd â gwastraff i'w ailgylchu i ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref.
Os ydych yn dal yn sicr ein bod wedi colli'ch biniau gallwch chi roi gwybod i ni yma trwy ddefnyddio'r botwm isod.