Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Nid yw adran Fy Nghyfrif Rhent o fewn Fy Nghyfrif Powys ar gael ar hyn o bryd

Diwrnod casglu biniau

Bin calendar icon

Ymddiheurwn am yr anghyfleustra, ond ni fydd casgliadau gwastraff gardd yn y wardiau isod a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher 30ain Ebrill, dydd Iau 1af Mai na dydd Gwener 2il Mai yn cael eu casglu. Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu dychwelyd cyn y casgliad nesaf. Byddwn yn casglu unrhyw ddeunydd dros ben sydd wedi cronni dros yr amser hwn drws nesaf i finiau mewn bagiau yn lle hynny.

Caersŵs, Canol a De'r Drenewydd, Ceri, Dolforwyn, Dwyrain Y Drenewydd, Ffordun a Threfaldwyn, Glantwymyn, Llanbrynmair, Llandinam gyda Dolfor, Llanidloes, Machynlleth, Yr Ystog

Rhowch eich bocsys allan erbyn 7.30 a.m. ar y diwrnod casglu arferol.  Rydym yn casglu gwastraff bwyd a deunydd ailgylchu bob wythnos.  Bydd y biniau ar olwynion a'r sachau porffor yn cael eu casglu bob 3 wythnos.  Ni fydd y lorïau'n troi nôl i gasglu unrhyw focsys/sachau/biniau sydd heb eu rhoi allan mewn pryd.  Os bydd hyn yn digwydd, ewch â'ch bocsys a'ch sbwriel nôl tan y diwrnod casglu nesaf.  Neu gallwch fynd â deunydd ailgylchu i'r ganolfan ailgylchu a gwastraff o'r cartref.

Gall tywydd garw effeithio ar gasgliad neu efallai bod cerbyd wedi torri i lawr neu fod gwaith ar y ffordd. defnyddiwch ein gwiriwr cod post ar-lein i gadarnhau'r trefniadau i'ch eiddo chi:

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu