Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor/Trethi Busnes​​​​​​​ ar gau ddydd Mercher 20 Mawrth

Polisi Cynllunio

Planning areas icon

Mae Cynlluniau Datblygu Lleol Powys, sy'n gosod strategaeth y Cyngor ar gyfer datblygiad cynaliadwy yr ardal, yn cwmpasu Powys gyfan ac eithrio'r rhannau hynny o'r sir sydd wedi'u lleoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Defnyddir y Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig (2011 - 2026)gan y Cyngor i arwain a rheoli datblygiadau, gan ddarparu sail ar gyfer penderfyniadau ar geisiadau cynllunio a bydd ar waithtan fis Mawrth 2026. 

Bellach, mae gwaith wedi dechrau ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd (2022 - 2037) a fydd yn dod i rym erbyn mis Mawrth 2026. Dilynwch y ddolen isod i dudalennau'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd i ganfod sut y gallwch chi gymryd rhan.

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Amnewid yn cael ei lunio gan ystyried y prif faterion ac ystyriaethau sy'n effeithio ar Bowys fel sir y tu allan i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bydd y rhain yn cael eu trafod trwy gyflwyno'r weledigaeth, prif faterion ac amcanion a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ystod y Cam Strategaeth Ddewisol yn ystod 2023.

Er mwyn cyflwyno gwybodaeth ar gyfer Strategaeth Ddewisol y CDLl Amnewid, fe fyddwn yn adolygu prif faterion ac amcanion y CDLl Mabwysiedig presennol gan gynnwys ystyried pa newidiadau sydd wedi digwydd ers ei fabwysiadu yn 2018, er enghraifft, datganiad y Cyngor yn 2020 ar Argyfwng Hinsawdd (gweler Newid Hinsawdd - Cyngor Sir Powys), cyflwyno Bargen Dwf Canolbarth Cymru i gefnogi economi'r rhanbarth (growingmidwales.co.uk), a maetholion fel mater o fewn yr afonydd hynny a ddynodir fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig lle mae pryderon ansawdd dŵr yn cael eu hamlygu.  

Mae'r gwaith eang o gasglu tystiolaeth, a gynhelir gyda mewnbwn rhanddeiliaid, yn tanategu amcanion y CDLl Amnewid ac yn cyflwyno gwybodaeth ar gyfer y strategaeth, polisïau a chynigion a fydd yn eu trafod hwy. Edrychwch ar y ddolen Newyddion Polisi Cynllunio Diweddaraf isod am ddiweddariadau.

Mae'r Cyngor yn gweithio yn unol â'r Cytundeb Cyflwyno (CC) a gytunwyd ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (CDLlA). Mae'r Cytundeb Cyflwyno yn dynodi'r Amserlen a'r Cynllun Cynhwysiant Cymunedol sy'n arwain at Archwiliad annibynnol o'r Cynllun cyn ei fabwysiadu (dyddiad targed o 2026). Mae'r CC ar gael ar dudalen we'r Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (2022 - 2037) ochr yn ochr â'r Adroddiad Arolwg sy'n ymwneud â'r CDLl presennol ac yn esbonio'r cefndir i'r penderfyniad i symud ymlaen gyda chynllun datblygu amnewid.

Rydym yng nghamau cychwynnol y broses o gasglu tystiolaeth. Ar hyn o bryd, rydym yn gwahodd sylwadau ar ddau set o ddogfennau - Y Fethodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol a'r Prosesau Asesu i Lunio Cynllun, Rhaid gwneud sylwadau erbyn 10 Hydref 2022. Edrychwch ar y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (2022 - 2037) am ragor o wybodaeth gan gynnwys dolenni i'r wefan ymgynghori lle y gallwch weld a gwneud sylwadau ar y dogfennau.