Toglo gwelededd dewislen symudol

Adroddiadau monitro blynyddol

Mae'n rhaid i'r Awdurdod Cynllunio Lleol lunio Adroddiad Monitro Blynyddol i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn i'w gyhoeddi ar y wefan.

Mae'r Adroddiadau Monitro Blynyddol yn asesu a yw'r strategaeth CDLl sylfaenol yn parhau'n gadarn, effaith polisiau ar lefel leol ac ehangach ac a yw'r polisiau a'r targedau cysylltiedig wedi'u diwallu neu pa gynnydd sydd wedi'i wneud at eu diwallu.  Mae'r Adroddiadau hefyd yn gyfle i ddal yr amgylchiadau economaidd, cymdeithasol neu ddiwylliannol gyffredinol ac unrhyw newidiadau cyd-destunol ers mabwysiadu'r Cynllun a all gael effaith ar ddiwallu amcanion polisiau ac felly'n llunio sylfaen dystiolaeth dros amser.

Yr Adroddiad Monitro Blynyddol am y cyfnod 1 Ebrill 2020 tan 31 Mawrth 2021 (AMR 2021) yw'r cyntaf i'w gyflwyno'n ffurfiol i Lywodraeth Cymru.  Mae hyn yn dilyn ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig Covid 19 (yn 2020) a wnaeth ddileu'r angen i gyflwyno Adroddiad Monitro ym mis Hydref 2020.  O ganlyniad mae'r Adolgyiad Monitro (17 Ebrill 2018 - 31 Mawrth 2019) a'r Adroddiad Monitro Blynyddol 2020 (1 Ebrill 2019 - 31 Mawrth 2020) yn cael eu cyhoeddi fel papurau cefndir.

Sylwch mai dim ond  prif rannau'r papurau cefndir, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â'r Gymraeg, sydd wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg.

Dogfennau