Am restr bellach o sefydliadau sy'n cynnig cymorth a chefnogaeth, ewch i Cael Cymorth
Pwynt Cymorth "Pop Up"
Os oes angen cyfarwyddyd a chymorth llesiant arnoch, sgwrsiwch gyda'n Gweithwyr Ieuenctid yn y Groe. Byddwch chi'n gallu cael dŵr yma i gadw'n hydradol, a roddwyd drwy garedigrwydd Radnor Hills.
Llwybr Gwrydd
Llwybr cerdded diogel sy'n cysylltu Maes y Sioe Frenhinol, Arena Y Pentre Ieuenctid, Fferm Penmaenau, a Chanol Tref Llanfair-ym-Muallt yn ystod yr wythnos.
Llwybr diogel yw hwn â therfyn cyflymder dros dro o 20yr awr i roi cymorth i ymwelwyr deithio'n ddiogel.
Tacsis
Mae'r brif safle tacsis wedi ei leoli ym Maes Parcio'r Groe, a bydd staff diogelwch yn bresennol i gefnogi diogelwch ymwelwyr.
Yn ychwanegol, mae busnesau tacsis trwyddedig Cyngor Sir Powys ar gael i gymryd teithwyr i drefi a phentrefi cylchynol (fel y mae cerbydau trwyddedig eraill Powys a allai fod yn gweithio yn yr ardal ar hyn o bryd). Argymhellir yn gryf eich bod chi'n archebu ymlaen llaw oherwydd y galw mawr.
Adey's - 01597 822118
Big Mike's Taxi - 07989 998706
George's Taxis - 07498 729724
Green Taxi - 07436 245957
SP Cars - 01597 810666
Tommy's Taxis - 07376777601
Woods Taxis - 07917663363
Joia, Cymer Ofal, Bydd Ddiogel
Yfwch yn gyfrifol gan wybod faint sy'n ddigon i chi
Edrychwch ar ôl eich ffrindiau
Mae ymagwedd sero-goddefgarwch at gyffuriau yn holl safleoedd y digwyddiad, a bydd chwiliadau ar hap yn digwydd.
Peidiwch â nofio yn yr afon. Mae pyllau dyfnion ynddi ac islif cryf na allwch eu gweld o'r arwyneb. Does dim mannau croesi diogel, dilynwch y Llwybr Gwyrdd os gwelwch yn dda.
Dilynwch y Llwybr Gwyrdd wrth deithio rhwng safleoedd digwyddiadau.
Arhoswch yn hydradol - Ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, mae nifer o bwyntiau dŵr yfed am ddim, ac yn y Pwynt Cymorth yng nghanol y dref, mae dŵr am ddim, a roddwyd drwy garedigrwydd Radnor Hills.
Os fydd hi'n boeth, defnyddiwch eli haul a gwisgwch het.