Os oes angen cyfarwyddyd a chymorth llesiant arnoch, sgwrsiwch gyda'n Gweithwyr Ieuenctid yn y Groe. Yma, cewch gasglu potel ddŵr i'ch hydradu sef rhodd garedig oddi wrth Radnor Hills.
Llwybr Gwrydd
Llwybr cerdded diogel sy'n cysylltu Maes y Sioe Frenhinol, Arena Y Pentre Ieuenctid, Fferm Penmaenau, a Chanol Tref Llanfair-ym-Muallt yn ystod yr wythnos.
Llwybr diogel yw hwn â therfyn cyflymder dros dro o 20yr awr i roi cymorth i ymwelwyr deithio'n ddiogel.
Joia, Cymer Ofal, Bydd Ddiogel
Yfwch yn gyfrifol gan wybod faint sy'n ddigon i chi
Edrychwch ar ôl eich ffrindiau
Mae ymagwedd sero-goddefgarwch at gyffuriau yn holl safleoedd y digwyddiad, a bydd chwiliadau ar hap yn digwydd.
Peidiwch â nofio yn yr afon. Mae pyllau dyfnion ynddi ac islif cryf na allwch eu gweld o'r arwyneb. Does dim mannau croesi diogel, dilynwch y Llwybr Gwyrdd os gwelwch yn dda.
Dilynwch y Llwybr Gwyrdd wrth deithio rhwng safleoedd digwyddiadau.
Cadwch wedi eich hydradu - Mae llawer o fannau dŵr yfed am ddim, ac yn y Pwynt Cymorth yng nghanol y dref ceir poteli dŵr am ddim sef rhodd garedig oddi wrth by Radnor Hills.
Os fydd hi'n boeth, defnyddiwch eli haul a gwisgwch het.