Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth ac Atal Cynnar yn y Cartref

Mae gwasanaethau a phrosiect Cymorth yn y Cartref yn rhan o raglen waith ehangach i geisio sicrhau bod gwaith ymyrryd a chymorth cynnar yn y cartref ar gael yn gyson i oedolion ar draws Powys. 

Gwasanaeth Cymorth yn y Cartref

Mae Cymorth yn y Cartref yn wasanaeth cymorth ac atal cynnar i ddinasyddion (50+) sy'n galluogi ac yn darparu'r gefnogaeth a'r cymorth ymarferol y gallai fod eu hangen ar unigolyn yn ei fywyd o ddydd i ddydd i fyw gartref yn hyderus, mewn iechyd da, yn annibynnol ac yn ddiogel.

Mae a wnelo cymorth yn y cartref â gosod unigolyn mewn sefyllfa sy'n golygu ei fod yn gallu rheoli ei ofal a'i gymorth, fel y gall fyw gartref mor annibynnol â phosibl. Mae'r timau Cymorth Cartref yn gweithio'n agos gydag unigolion, eu teuluoedd ac unrhyw un arall yn eu bywyd, i'w helpu gyda'r cymorth sydd ei angen arnynt. Maent hefyd yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill yn y gymuned leol i helpu i ddarparu gwell cymorth drwy'r cyfan. Mae gwasanaethau Cymorth Yn y Cartref am ddim. Nid yw mynediad yn seiliedig ar brawf modd nac yn dibynnu ar feini prawf cynhwysiant/gwahardd a gall unigolion hunangyfeirio. Unwaith y bydd unigolyn yn dod yn aelod o Gymorth Cartref gallant fynd i mewn ac allan o'r gwasanaeth yn unol â'u hanghenion heb orfod cael eu hailgyfeirio. Ymhlith y pethau y gall Cymorth Cartref helpu gyda nhw yn cynnwys:

  • Ymatebwyr Care Line 24/7/365
  • Gwiriadau llesiant rhagweithiol
  • Hyrwyddo annibyniaeth a lles a ffyrdd iach o fyw
  • Cymorth ymarferol (help gydag apwyntiadau, casglu presgripsiynau neu siopa angenrheidiol
  • Cynorthwyo gofalwyr gyda'u rôl
  • Cymorth a gofal personol dros dro
  • Cyfeirio, atgyfeirio a helpu i gael mynediad at grwpiau cymunedol lleol a rhwydweithiau cefnofi (gan gynnwys gofal a gwasanaeth a alluogir gan dechnoleg (TEC))

Gwasanaethau Cymorth yn y Cartref sydd ar gael ar hyn o bryd

Cymorth yn y Cartref Dwyrain Mesyfed

Manylion cyswllt

9am - 5pm

01544 260360

East Radnorshire Care Ltd, Old School, Heol Scottleton, Llanandras, LD8 2BL

Cymorth yn y Cartref Rhaeadr a Llandrindod  a Llanidloes

Manylion cyswllt

8:30am - 5:30pm

01597 810432

Cyngor Sir Powys, Canolfan Hamdden Rhaeadr, Stryd y Gogledd, Rhaeadr,  LD6 5BU

Cymorth yn y Cartref Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd 

Manylion cyswllt

9am - 5pm

01982 553647

Builth Wells Community Support, 1 Stryd y Groes, Llanfair ym Muallt, LD2 3DW

Prosiect Cymorth yn y Cartref

Sefydlwyd y prosiect Cymorth Cartref yn 2018 i roi prawf ar effaith y gwasanaethau Cymorth Cartref presennol yn Rhaeadr Gwy trwy ei ymestyn i Landrindod (fel un ardal) a sefydlu dau wasanaeth newydd yn ardaloedd Dwyrain Sir Faesyfed (Llanandras a Thref-y-clawdd) a Llanidloes.  Y weledigaeth oedd i sefydlu gwasanaethau Cymorth Cartref ym mhob un o dair ardal ar ddeg Powys.

Mae'r ymrwymiad i ddysgu a gwelliant parhaus wedi bod yn rhan annatod o'r prosiect Cymorth Cartref o'r cychwyn cyntaf.  Mae hyn wedi cynnwys dau weithgaredd allweddol.  Y cyntaf yw cofnodi ac adrodd ar holl weithgareddau'r gwasanaeth (data meintiol) mewn perthynas â chanlyniadau'r gwasanaeth. Mae hyn yn helpu i ddangos pwy sy'n cael cymorth, yr hyn sydd wedi'i gyflawni, a'r gwahaniaeth y mae'r gwasanaeth wedi'i wneud. Mae'r ail weithgaredd yn helpu i ddangos pa mor dda mae'r gwasanaeth wedi cael ei ddarparu/ei dderbyn ac mae'n cynnwys adborth gan aelodau'r gwasanaeth a'u gofalwyr (arolwg blynyddol, canmoliaeth, cwynion, ac astudiaethau achos). Mae'r gwerthusiad parhaus hwn wedi sicrhau cyllid prosiect a phrif ffrwd parhaus yn ogystal â darparu tystiolaeth leol helaeth sy'n dangos yr effaith y mae gwasanaethau Cymorth Cartref wedi'i chael ar fywydau unigolion. Gweler Adolygiadau Cymorth Cartref 2018-2023 isod.

Ym mis Gorffennaf 2021, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Sir Powys y cynnig i weithio gyda gwasanaethau a chymunedau lleol i gyflwyno a phrif ffrydio gwasanaethau cymorth yn y cartref o'r tair ardal leol wreiddiol ym Mhowys i'r dair-ar-ddeg o ardaloedd.  Ym mis Hydref 2022, sefydlwyd y bedwaredd gwasanaeth Cymorth Cartref yn ardal Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd, ac mae cynlluniau i barhau i sefydlu Cymorth Cartref yn y naw ardal sy'n weddill ar waith. 

Rhagor o wybodaeth

* Fersiwn Cymraeg ar y gweill

** Oherwydd maint yr adolygiad yma, nid yw ar gael yn ei gyfanrwydd yn Gymraeg. Os oes gennych ymholiadau ynghylch uchafbwyntiau adran, rhanddeiliaid neu bwnc, cysylltwch â TBC.