Toglo gwelededd dewislen symudol

Diwrnod Recriwtio Agored

Care worker talking to patient

Y Farchnad Ŷd Neuadd y Dref, Y Trallwng

Dydd Llun 11 Medi, 2023

10am-5pm

Mae ein digwyddiadau'n ffordd wych o ddarganfod gwybodaeth am ein cyfleoedd gwaith, felly dewch draw i'r diwrnod recriwtio agored yn y Trallwng. Does dim rhaid archebu lle, galwch heibio unrhyw bryd rhwng 10am-5pm. 

Gallwch ddarganfod rhagor am swyddi gofal a chefnogaeth gyda ni, yn ogystal â chyfleoedd ym maes iechyd gan ein cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Ein rolau gofal a chefnogaeth:

Yn y dgiwyddiad, byddwch yn cwrdd ag aelodau o'n tîm cyfeillgar wyneb yn wyneb i glywed ganddyn nhw sut beth yw gweithio yn y gymuned i gefnogi pobl â'u hanghenion dyddiol i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Os fyddwch chi'n hoffi'r hyn a glywch chi, a bod y swydd yn iawn i chi, gellir cael cyfweliad a chynnig amodol ar yr un dydd.

Er mwyn cyflymu'r broses recriwtio, dewch â'r eitemau canlynol ar y dydd:

  • Eich ID
  • Rhestr o'ch cymwysterau
  • Hanes llawn eich cyflogaeth
  • Manylion canolwr

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n barod am gyfweliad, gallwch alw mewn am sgwrs anffurfiol yn lle hynny a chlywed rhagor am y swydd a'n cyfleodd dysgu a datblygu.

Dim gofal plant? Dim problem, dewch â'r plant gyda chi.

Am y rôl :

Fel Gweithiwr Ailalluogi Gofal a Chymorth, byddwch yn cael y pleser o wneud gwahaniaeth yn ogystal â:

  • Gwisg am ddim
  • Datgeliad BS am ddim
  • Talu am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Hyfforddiant am ddim
  • Mynediad at gynllun Fframwaith Cymwysterau a Chredydau
  • Lwfans petrol cystadleuol
  • Cyfleoedd ardderchog o ran dilyniant gyrfa 
  • Cyfarpar Diogelu Personol yn cael ei ddarparu
  • Anwytho cynhwysfawr

Mae'n wirioneddol hyblyg!

Rydym ni'n cynnig contractau llawn amser a rhan amser a'r opsiwn i weithio ar rota cywasgedig, sy'n golygu eich bod chi'n cael rhagor o ddyddiau rhydd sy'n gweddu'r teulu.

Byddwch chi'n derbyn cyflog iach o £22,369 i £23,194 y flwyddyn pro rata.

Ydych chi am ddarganfod rhagor? Dewch draw i'r diwrnod agored recriwtio neu cysylltwch:

James Stuart
Rheolwr Gweithredol Gwasanaethau Cofrestredig (Gogledd) Uned Gwasanaethau Oedolion
01938 551077
james.stuart@powys.gov.uk

Rolau iechyd

Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn bresennol ar y diwrnod hefyd i drafod y rolau hyblyg sydd ar gael sy'n ffitio o amgylch eich bywyd chi mewn ysbytai a lleoliadau yn y gymuned ledled Powys. Bydd staff ar gael trwy'r dydd i siarad am yr amrywiaeth eang o swyddi sydd ar gael gyda'r GIG yn lleol. Dewch draw i gael sgwrs!