Newyddion

Cefnogaeth gan y cyngor a gan y Dreigiau!
Mae cwmni o Bowys a gafodd ei gefnogi y llynedd gan y cyngor sir gyda grant twf, bellach wedi denu buddsoddwyr ychwanegol ar raglen Dragons' Den ar BBC ONE.

Gwrthrychau o'r Oes Neolithig, Efydd a Haearn wedi'u dynodi yn ystod diwrnod darganfyddiadau
Fe wnaeth diwrnod darganfyddiadau a gynhaliwyd mewn amgueddfa ym Mhowys ddynodi amrywiaeth o wrthrychau archeolegol o ddiddordeb, gyda rhai ohonynt yn filoedd o flynyddoedd oed.

Amlygu llwyddiant arloesi yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru: Prosiectau newydd yn sbarduno arloesi ym maes Technoleg Amaeth a Thechnoleg Bwyd
Mae'r cynllun Meithrin Arloesi yn y Clwstwr Technoleg Amaeth a Thechnoleg Bwyd ar gyfer Canolbarth a Gogledd Cymru yn croesawu cyhoeddi naw prosiect arloesol o'r rhanbarth sydd wedi sicrhau cyfran o £400,000 o gyllid drwy gystadleuaeth gyllido newydd Innovate UK sy'n canolbwyntio ar arloeswyr newydd ym maes technoleg amaeth a thechnoleg bwyd.

Dweud eich dweud ar welliannau i ganol tref Aberhonddu
Mae cam nesaf yr ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer buddsoddiad sylweddol i wella strydlun canol y dref ar fin cael ei lansio.

Digwyddiad Ymwybyddiaeth Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant
Bydd sesiwn am ddim i godi ymwybyddiaeth o Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant yn cael ei chynnal gan Gyngor Sir Powys, ar y cyd â Sefydliad Lucy Faithfull.

Galw pob contractwr adeiladu: Helpwch ni i adeiladu'r genhedlaeth nesaf o gartrefi cyngor
Mae Cyngor Sir Powys yn gwahodd contractwyr adeiladu sydd â phrofiad o arwain cynlluniau adeiladu tai i ddod i gael gwybod mwy am ei raglen datblygu tai cyffrous mewn digwyddiad yn y Trallwng fis nesaf

Newidiadau yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi
O 1 Ebrill 2025, bydd newid i'r ffordd yr ydym ni oll yn defnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, sy'n cynnwys archebu slot amser ar gyfer eich ymweliad a thalu swm bychan i gael gwared ar wastraff DIY.

Hwb i briffyrdd yn argymhellion y gyllideb
Bydd argymhellion ar gynlluniau'r gyllideb gan Gabinet Cyngor Sir Powys yn cael eu hystyried gan gyfarfod o'r cyngor llawn yr wythnos nesaf.

A yw eich plant yn y math cywir o sedd car?
Bellach mae gan bob ysgol gynradd ym Mhowys siart uchder sydd newydd ei gosod i ddangos yn hawdd pa fath o sedd car y dylai'r plant fod yn ei defnyddio i gadw'n ddiogel wrth deithio mewn cerbyd.

Freedom Leisure yn cipio dwy Wobr Bwysig Nofio Cymru
Mae Freedom Leisure wedi ennill rhai o gategorïau pwysicaf y gwobrau eleni - Darparwr Dysgu Nofio y Flwyddyn a hefyd y Wobr Cynaliadwyedd mewn seremoni wobrwyo ddisglair a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.