Hysbysiad: Mae manylion llawn system archebu newydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd a thaliadau am wastraff DIY ar gael ar wefan y cyngor.
Gallwch wylio gweddarllediadau rhai o'n cyfarfodydd cyngor cyhoeddus yn fyw ac yn yr archifau ar ein porthol gweddarllediadau.
Mae hwn yn caniatáu i chi weld y cyngor yn llunio penderfyniadau sy'n effeithio arnoch chi, ac yn ein helpu ni i fod yn agored ac yn atebol. Mae'n rhoi cyfle i chi ymwneud mwy â democratiaeth leol.
Dydyn ni ddim yn gweddarlledu ein holl gyfarfodydd ar hyn o bryd, dim ond y rheiny y mae gan y cyhoedd lawer o ddiddordeb ynddyn nhw, ond byddwn yn adolygu ein barn ynghylch pa gyfarfodydd ddylai gael eu gweddarlledu yn y dyfodol agos.
Bydd y gweddarllediadau'n aros yn ein harchif am chwe mis ar ôl dyddiad y cyfarfod, ac yna'n cael eu tynnu i ffwrdd.