Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Help gyda Llety â Chefnogaeth

A allech chi wneud y gwahaniaeth i fywyd rhywun ifanc? A allech chi gynnig carreg camu i bobl ifanc ym Mhowys tuag at annibyniaeth?

Mae'r sawl sy'n cynnig Llety â Chymorth yn darparu ystafell yn eu cartref i unigolyn ifanc ac yn rhoi cefnogaeth, anogaeth a chyfarwyddyd iddynt ddatblygu'r sgiliau ymarferol a'r hyder sydd eu hangen arnynt i fyw'n annibynnol.

Fel rhan o'r cynllun Llety â Chymorth, fe fyddech yn cynnig llety dros dro i unigolyn ifanc o fewn eich cartref. Fe fyddech yn eu helpu i ddatblygu sgiliau byw annibynnol i'w galluogi i fyw'n annibynnol yn y dyfodol.

Fel Gwestywr Llety â Chymorth, fe fyddwch yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd unigolyn ifanc. Yn gyfnewid am hyn, fe fyddwch yn derbyn cefnogaeth barhaus oddi wrth ein Cydlynwyr Llety â Chymorth, mynediad at ystod eang o hyfforddiant, gan gynnwys lwfans wythnosol.

Allwn i fod yn Westywr Llety â Chymorth?

Gallwch, os:

  • Oes gennych ystafell sbar,
  • Ydych yn mwynhau cwmni pobl ifanc,
  • Oes gennych yr amser, yr egni a'r ymroddiad i weithio ag unigolyn ifanc.

Gall Llety â Chymorth fod gyda theulu, cwpl neu rywun sengl. Ni fyddech yn cael cyfrifoldeb rhiant dros yr unigolyn ifanc, ond fe fyddech yn rhoi cyfarwyddyd a help ymarferol iddynt i'w paratoi i fyw ar ben eu hunain.

Pa fath o gefnogaeth fydd gofyn i mi ei gyflwyno i'r unigolyn ifanc?

  • Cyllidebu
  • Coginio ar gyllideb isel
  • Glanhau
  • Golchi dillad
  • Darparu cyngor
  • Gwrando pan fo angen

Gofyn am alwad nôl am Llety â Chymorth Gofyn am alwad nôl am Llety â Chymorth

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau