Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhoi gwybod i ni am newid i'ch busnes

Mae rhai newidiadau i'ch busnes y bydd rhaid dweud wrth y Swyddfa Brisio amdanynt. Y math o newid sydd angen i'r Swyddfa Brisio wybod amdanynt yw 'Newid Materol mewn Amgylchiadau' (NMA) a newidiadau o bwys ydynt fel arfer i'ch eiddo busnes.


Pa fath o newid ffisegol i eiddo a allai fod yn Newid Materol mewn Amgylchiadau (NMA)?

Bydd y Swyddfa Brisio eisiau gwybod am:

  • Ddymchwel rhan o'ch eiddo
  • Estyniadau neu addasiadau mewnol i'ch eiddo
  • Unrhyw addasiadau strwythurol o bwys a wneir i'ch eiddo
  • Newid yn y defnydd o'ch eiddo.

Mae enghreifftiau o newid yn cynnwys os bydd siop yn dod yn dafarndy, neu os bydd swyddfa uwchben siop yn cael ei thrawsnewid yn fflat domestig.

Cofiwch: er y gall y Swyddfa Brisio dderbyn bod newid yn NMA, ni fydd hyn yn arwain yn awtomatig at newid yn eich gwerth ardrethol (GA).


Pa fath o newid ffisegol i'r eiddo a all effeithio ar y GA?

Mae newidiadau eraill i'ch eiddo a all effeithio ar y GA, ac y dylid dweud wrth y Swyddfa Brisio amdanynt.

Os oes rhan o'ch eiddo wedi cael ei rannu ymaith fel y caiff (neu y gellid) ei feddiannu gan rywun arall neu os ydych yn cynyddu maint eich eiddo trwy feddiannu llawr arall (yn uniongyrchol uwchben neu o dan) yr adeilad neu o bosibl fel rhan o adeilad drws nesaf.

Gelwir y newidiadau ffisegol hyn yn 'ailgyfansoddiadau' neu raniadau ac uniadau.

Er enghraifft, cwmni sy'n meddiannu adeilad swyddfa deulawr. Mae'r cwmni yn penderfynu gadael y llawr cyntaf ac mae cwmni arall yn symud yno.  Fe fyddem yn rhannu'r asesiad wedi hynny yn ddau asesiad ar wahân.

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, mae'r cwmni ar y llawr gwaelod yn symud allan yn llwyr, ac mae'r cwmni ar y llawr cyntaf yn cymryd y llawr gwaelod hefyd. Byddai'r ddau asesiad yn cael eu huno i fod yn un asesiad.

Cofiwch: Pan mae dau eiddo'n cael eu cyfuno, gall gwerth ardrethol yr uno gynyddu yn uwch na'r trothwy gostyngiadau i fusnesau bychain. Gallai hyn olygu fod eich bil yn cynyddu mwy nag y byddech yn ei ddisgwyl.

 


Sut ydw i'n rhoi gwybod am NMA i'm heiddo?

Dylech gysylltu â'ch Swyddfa Brisio leol gyda manylion eich eiddo a'r newid posibl.

Bydd angen i chi anfon tystiolaeth ategol. Bydd hyn yn dibynnu ar y math o newid ffisegol ond bydd tystiolaeth dda yn cynnwys:

  • Unrhyw newid i'ch cytundeb rhent sydd yn ganlyniad uniongyrchol i'r newid ffisegol.
  • Unrhyw newid i lefel eich masnachu sy'n ganlyniad uniongyrchol i'r newid ffisegol.
  • Unrhyw wybodaeth berthnasol arall megis gwaith sydd wedi'i gynnal ac unrhyw geisiadau cynllunio.