Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

RHYBUDD SGAM: Rydym wedi cael gwybod am gyfres o negeseuon testun twyllodrus sy'n cael eu hanfon at drigolion Powys.

Rhenti a Bondiau Preifat

Cynllun Bondiau Powys

Landlordiaid - a oes gennych denant sydd angen cymorth ariannol i dalu'r blaendal?

Efallai y bydd Cynllun Bondiau Cyngor Sir Powys yn gallu helpu trwy gynnig Bond Papur i bobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Mae'r cymorth ariannol hwn yn seiliedig ar fforddiadwyedd ac amgylchiadau unigol, trwy ddarparu blaendal/bond papur i denantiaid cymwys.

Pan fydd y person yn cael ei dderbyn ar gyfer eiddo, mae Cynllun Bondiau Powys yn gweithio gyda'r tenant a'r landlord i lofnodi Cytundeb Bond sy'n nodi y bydd y tenant yn cynilo dros ddwy flynedd i gyrraedd cyfanswm y blaendal.

Mae'r cytundeb Cynilo Bondiau wedi'i sefydlu gyda Banc Cymunedol Smart Money Cymru ac mae'n gyfrif blaendal sy'n cael ei fonitro yn unig, pan fydd yr arbedion wedi'u cwblhau, bydd hwyluswyr Bondiau Powys yn rhyddhau'r blaendal arian parod i'r landlord.

A allaf gadw'r bond fy hun nes bod y tenant yn symud ymlaen?

Ers 6 Ebrill 2007 mae wedi bod yn ofyniad cyfreithiol i bob blaendal (ar gyfer rhent hyd at £25,000 y flwyddyn) a gymerir gan landlordiaid neu asiantau gosod tai ar gyfer tenantiaethau tymor byr sicr i gael eu diogelu gan gynllun diogelu blaendal tenantiaeth.

Mae tri chynllun ar gael, y mae dau ohonynt yn seiliedig ar yswiriant, sy'n caniatáu i'r landlord gadw'r blaendal os ydynt yn talu premiwm i'r cynllun, neu fel arall cynllun gwarchod sy'n dal y bond ar ran y landlord (am ddim) tan ddiwedd y denantiaeth.

Cofiwch: Rhaidi chi roi manylion i'r tenant ynglŷn â sut mae eu blaendal wedi'i ddiogelu o fewn 14 diwrnod i'w dderbyn. Gall methu â diogelu bond/blaendal arwain at achos llys a gofyniad i ad-dalu'r bond a dirwy o 3 gwaith swm y bond. Gall hefyd olygu na fyddwch yn gallu cael meddiant o eiddo ar ddiwedd y denantiaeth. 

Am fwy o wybodaeth am ddiogelu blaendaliadau tenantiaeth, ewch i Cynlluniau diogelu blaendaliadau a landlordiaid: Trosolwg - GOV.UK

Faint o rent alla i ei godi?

Chi sy'n gyfrifol am benderfynu swm y rhent yr ydych chi'n ei godi, ond dylai fod yn rhesymol, yn seiliedig ar faint a chyflwr yr eiddo. Cofiwch, os nad yw'n unol â rhenti sy'n cael eu codi am eiddo tebyg yn yr ardal, mae'n annhebygol y byddwch chi'n denu tenant.

Beth yw Lwfans Tai Lleol?

Mae Lwfansau Tai Lleol (LHA) yn cael eu pennu gan bob awdurdod lleol; mae'n ystyried y swm uchaf sy'n daladwy o Elfen Rhent Credyd Cynhwysol neu fudd-dal tai. Dyfernir hwn i aelwyd yn seiliedig ar nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen ar y tenant a'u teulu.

Os yw swm y rhent rydych chi'n ei godi yn uwch na hawl y lwfans tai lleol sydd gan yr aelwyd sy'n rhentu'ch eiddo, y tenant fydd yn gyfrifol am ychwanegu at y gwahaniaeth.

A fydd Budd-dal Tai yn cael ei dalu'n uniongyrchol i mi?

Yn gyffredinol, telir Elfen Rhent Credyd Cynhwysol yn uniongyrchol i'r tenant sydd wedyn yn gyfrifol am dalu'r rhent.

Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft os yw person wedi bod yn ddigartref neu os yw'n debygol y bydd gan y tenant anhawster i reoli ei faterion ariannol, gellir gwneud taliad yn uniongyrchol i'r landlord.  Gellir trefnu hyn trwy gwblhau cais ar Hafan - Gwneud cais am daliadau rhent uniongyrchol - GOV.UK

Beth os yw fy nhenant yn cael trafferth ymdopi'n ariannol?

Gellir darparu cymorth i helpu pobl sy'n cael anawsterau gyda materion sy'n gysylltiedig â thenantiaeth. Dylid cynghori tenantiaid yn y sefyllfa hon i gysylltu â Gwasanaeth Tai Cyngor Sir Powys ar 01597 827464.

Os yw'r tenant yn rhan o Gynllun Bondiau Powys, cysylltwch â hwyluswyr y Bond ar y rhif isod.

Fel arall, gall yr Adran Dai eich cyfeirio at sefydliadau perthnasol eraill fel;  Shelter (Ffôn: 0845 075 5005) a'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth (Ffôn: 08444 77 20 20).

Gellir darparu cymorth a chyngor amgen ynghylch amrywiaeth o faterion fel cyllidebu a rheoli dyledion, cael mynediad at fudd-daliadau neu atgyfeirio at gymorth iechyd meddwl.

 

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu