Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau Palmant

Cyfarwyddyd i ymgeiswyr

Darllenwch y wybodaeth isod cyn mynd yn eich blaen.

Fe fyddwch angen cael copïau electronig o'r dogfennau canlynol i'w huwchlwytho yn ystod y broses ymgeisio:

  • Cynllun yn dangos lleoliad a manylion eich cynnig. Gall hyn fod yn fraslun ond dylai ddangos digon o wybodaeth yn eglur i ddynodi'r lleoliad a'r cynllun arfaethedig.
  • Copi o'ch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Bydd gwybodaeth a gyflwynir yn eich cais ar gael i'w weld gan y cyhoedd ar wefan y cyngor. Ni fydd manylion personol megis enw, manylion cyswllt a chyfeiriadau personol yn cael eu datgelu ar y wefan.

Fe fydd angen i chi ddisgrifio'r hyn yr ydych eisiau ei wneud, yr ardal yr ydych am ei defnyddio a'ch oriau gweithredu. 

Darllenwch yr amodau safonol cyn ymgeisio.

Gellir cymhwyso amrywiadau i'r amodau safonol.

Unwaith y byddwn yn derbyn eich cais, fe fyddwn yn cynnal ychydig o archwiliadau cychwynnol i:

  • sicrhau ein bod yn cael cyflwyno caniatâd (ni allwn gyflwyno caniatâd ar bob priffordd);
  • sicrhau fod eich cais yn cynnwys yr holl wybodaeth yr ydym ei hangen i ddechrau'r broses (fe fyddwn yn cysylltu â chi os oes unrhyw broblemau);
  • dynodi pwy ydym angen ymgynghori â hwy neu gael caniatâd oddi wrthynt.

Rydym yn amcangyfrif y bydd yr archwiliadau hyn yn cymryd tua wythnos.

Mae'r ymgynghoriad a'r rhan o gyflwyno'r caniatâd yn cymryd isafswm o 28 diwrnod.

Fe fyddwn yn ymdrechu i roi syniad i chi am gynnydd eich cais wedi tua 10 diwrnod. Nid yw hyn yn rhoi sicrwydd y bydd caniatâd yn cael ei gyflwyno ond fe fydd yn caniatáu i chi gynllunio gyda mwy o hyder. Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod, rydym yn amcangyfrif y bydd yn cymryd wythnos bellach i adolygu unrhyw sylwadau a gwneud penderfyniad ar eich cais.

Gwneud cais am Drwydded Palmant Gwneud cais am Drwydded Palmant

Gweld y Porth Trwydded Palmant Porth Trwydded Palmant