Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ar hyn o bryd rydym yn profi problemau technegol sy'n effeithio ar ffurflenni a phrosesau gwe ar draws y wefan. Efallai na fyddwch yn gallu gwneud pethau fel gwneud ceisiadau am wasanaeth, rhoi gwybod am broblemau, gwirio casgliadau biniau, archebu slot canolfan ailgylchu ac ati, nes bod y broblem wedi'i datrys. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra.

Trwydded Mangre

Os yw trwydded safle neu dystysgrif adeilad clwb yn cael effaith mewn perthynas â'r fangre (neu unrhyw ran o'r fangre) yr hoffech ei defnyddio i gynnal gweithgareddau wedi eu trwyddedu, mae'n bosibl y gellir gosod unrhyw amodau sy'n berthnasol i'r drwydded neu'r dystysgrif ar yr hysbysiad digwyddiad dros dro os bodlonir rhagamodau penodol.

Y rhagamodau hyn yw bod yr heddlu neu'r awdurdod lleol sy'n gweithredu swyddogaethau iechyd yr amgylchedd yn gwrthwynebu'r hysbysiad a bod yr awdurdod trwyddedu yn penderfynu:

  • i beidio â rhoi gwrth-hysbysiad o dan adran 105 o Ddeddf Trwyddedu 2002
  • bod yr amodau yn berthnasol i'r drwydded neu'r dystysgrif; a
  • na fyddai gosod yr amodau ar yr hysbysiad yn anghyson â chynnal y gweithgareddau trwyddedadwy o dan yr hysbysiad.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu