Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

RHYBUDD SGAM: Rydym wedi cael gwybod am gyfres o negeseuon testun twyllodrus sy'n cael eu hanfon at drigolion Powys.

Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro

Mae Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro yn eich caniatau i gynnal un neu ragor o weithgareddau sydd angen trwydded ar eich safle am hyd at 168 awr.  Gellir defnyddio Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro i gynnal digwyddiadau bach heb fod yn fwy na 499 o bobl ar y tro, yn dibynnu ar rai cyfyngiadau.  

Gellir defnyddio Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro ar gyfer:

  • digwyddiad y tu allan i delerau trwydded safle sy'n bodoli eisoes
  • digwyddiad sy'n cael ei gynnal lle nad oes trwydded safle'n bodoli

Os yw'r rhybudd yn bodloni meini prawf y Ddeddf Drwyddedu, bydd y digwyddiad yn mynd yn ei flaen oni bai bod rhybudd yn cael ei roi yn ei erbyn. Gellir defnyddio Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro ar gyfer digwyddiadau sy'n cynnwys:

  • Dramâu neu ffilmiau
  • Gweithgareddau chwaraeon dan do, bocsio, reslo
  • Cerddoriaeth fyw/wedi'i recordio
  • Dawnsio, perfformio dawns
  • Cyfleusterau gwneud cerddoriaeth/dawns
  • Gwerthu/cyflenwi alcohol
  • Darparu lluniaeth hwyr y nos (bwyd a diod poeth rhwng 11 p.m. a  5 a.m.)

Mae'n bwysig eich bod yn gwneud yn siwr bod unrhyw weithgareddau trwyddedig yn cael eu cynnal yn ôl y manylion a disgrifiwyd yn y rhybudd a gafodd ei gyflwyno.  Rhaid i'r rhybudd fod yn y diwyg cywir ac mae'n rhaid i rywun dros 18 oed ei gyflwyno.

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen gais ar y dudalen hon i roi rhybudd i ni, neu gallwch ddweud wrthym:

  • manylion y gweithgareddau y mae angen trwydded ar eu cyfer
  • cyfnod yr achlysur
  • yr amseroedd y bydd y gweithgareddau'n digwydd
  • y nifer fwyaf o bobl a fydd yn cael eu caniatau ar y safle
  • os ydych yn mynd i gyflenwi alcohol, bydd angen i chi roi datganiad yn cadarnhau bod cyflenwi'r alcohol yn digwydd dan awdurdod defnyddiwr y safle yn amod defnyddio'r safle
  • unrhyw beth arall yr ydych yn credu y dylwn ni wybod.

Os na fyddwch wedi clywed oddi wrthym o fewn 9 diwrnod calendr o anfon eich cais, gallwch dderbyn bod eich cais wedi cael ei ganiatau.

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Cyfrifoldebau Perchnogion a Deiliaid

Y cyngor i berchnogion a deiliaid tir lle cynhelir digwyddiad, lle mae'r tir dan sylw yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a bennir dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) yw ceisio cyngor gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) cyn cychwyn y digwyddiad. Bydd gofyn cael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan CNC ar gyfer gweithrediadau neu weithgareddau y gellir tybio eu bod efallai'n niweidiol i nodweddion dynodedig y Safle, oni bai eu bod fel arall yn rhan o gytundeb rheoli sy'n cael ei lunio yn unol â deddfwriaeth berthnasol. Gall methu â chael y caniatâd angenrheidiol, a glynu wrth ei amodau heb esgus rhesymol, fod yn drosedd.

Hwyrach y bydd unigolyn sy'n trefnu, yn hwyluso neu'n mynd i ddigwyddiad, sydd heb esgus rhesymol, yn fwriadol neu'n ddi-hid yn dinistrio neu'n niweidio nodwedd(ion) dynodedig SoDdGA, neu sy'n fwriadol neu'n ddi-hid yn amharu ar ffawna dynodedig SoDdGa yn cyflawni trosedd. Gall y drosedd fod yn berthnasol i niwed neu achos o aflonyddu sy'n digwydd ar dir tu allan i ffiniau'r digwyddiad. Y cyngor i drefnyddion digwyddiadau yw y dylen nhw gysylltu â CNC am gyngor cyn cychwyn y digwyddiad.

Gellir cysylltu â CNC drwy ffonio 0300 065 3000.   Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfarwyddyd i berchnogion a deiliaid Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Ffurflen Gais

Gwnewch gais ar-lein trwy ddefnyddio'r ddolen isod. Bydd y ddolen yn mynd â chi i un o wefannau eraill y llywodraet.

Cyfarwyddyd ar Rybudd Digwyddiadau Dros Dro (PDF, 201 KB)

Cyflwyno Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro Cyflwyno Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro

Cyfarwyddyd ar Rybudd Digwyddiadau Dros Dro (PDF, 297 KB)

Trefnu Digwyddiadau'n Ddiogel Canllawiau i Drefnwyr (PDF, 468 KB)

Gallwch hefyd gael ffurflen gais gennym trwy ddefnyddi'r manylion cysylltu ar y dudalen hon. Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd gyda'r ffi i'r swyddfa drwyddedu ardal..

Byddwn yn codi ffi am y drwydded yma. 

Mae rhai cyfyngiadau ar ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal dan drwydded Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro

  • Dim mwy na 499 o bobl ar y safle ar unrhyw adeg ar gyfer unrhyw achlysur
  • Gall pob achlysur Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro bara hyd at 168 awr
  • Ni all unrhyw safle gynnal fwy na 12 achlysur Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro bob blwyddyn 
  • 21 diwrnod y flwyddyn yw cyfanswm uchaf y cyfnod y mae Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro yn berthnasol iddo 
  • Rhaid bod o leiaf 24 awr rhwng pob digwyddiad ar unrhyw safle 
  • Gellir cyflwyno sawl Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro ar yr un pryd, ond mae pob achlysur yn Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro ar wahân a bydd ffi ar wahân i bob un.  Ni ellir mynd dros y cyfyngiadau uchod.
  • Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hyn i gyflwyno Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro a gallwch gyflwyno hyd at bum Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro bob blwyddyn. Os ydych yn ddeiliad trwydded bersonol, gallwch gyflwyno hyd at 50 Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro y flwyddyn.

Os nad yw'r meini prawf hyn yn cael eu diwallu, bydd angen i chi gael Trwydded Safle llawn.

Os oes safle ar gael i'w logi i sefydliadau/unigolion ar gyfer eu hachlysuron eu hunain, rhaid i berchnogion/gweithredwyr y safle fod yn ymwybodol bod y Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro sy'n cael ei gyflwyno yn cael ei gyfrif o dan y cyfyngiadau sydd yn y Ddeddf.  Byddwn yn awgrymu felly bod cytundeb llogi yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod yr holl rybuddion o Ddigwyddiad Dros Dro ar gyfer digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ar safle yn cael eu gwneud gyda chytundeb y perchennog/gweithredwr.

Bydd Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro yn cael ei drin fel rhybudd a ddaw o'r un safle hyd yn oed os mai unigolyn cyswllt sy'n ei gyflwyno.  Gall 'unigolyn cyswllt' fod yn gymar, plentyn, rhiant, wyr/wyres/ nain/taid, brawd neu chwaer neu gymar, neu asiant neu weithiwr neu gymar asiant neu weithiwr.

Apeliadau

Os ydych yn anfodlon ag unrhyw un o'n penderfyniadau, mae croeso i chi gysylltu â ni i'w drafod.

Os byddwn yn cyflwyno gwrth-rybudd, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad.  Rhaid cyflwyno apel i'r llys Ynadon lleol cyn pen 21 diwrnod.  Rhaid cyflwyno apel o leiaf pump diwrnod gwaith cyn diwrnod y gweithgaredd dan sylw.

Eraill sydd â diddordeb

Os byddwn yn derbyn cwyn ac yn penderfynu i beidio â chyflwyno gwrth-rybudd, gall prif swyddog yr heddlu apelio yn erbyn y penderfyniad.  Rhaid cyflwyno apel i'r llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod.  Rhaid cyflwyno apel o leiaf pump diwrnod gwaith cyn y digwyddiad dan sylw.

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Os oes gennych gwyn am fusnes yn defnyddio'r Rhybudd o Ddigwyddiad Dros Dro cysylltwch â'ch swyddfa leol gan ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon.

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu