Llifogydd: Storm Bert a Storm Darragh
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cartrefi yng Nghymru a gafwyd eu taro gan y llifogydd diweddar yn derbyn rhwng £500 a £1000 o gymorth yn dil
yn y golygfeydd "dinistriol" o ddifrod ledled y wlad.
- £1,000 fesul cartref nad ydynt wedi'u hyswirio
- £500 fesul cartref sydd wedi'u hyswirio
Cymhwysedd: pa bynnag fecanwaith dosbarthu a bennir, rydym yn argymell bod cymorth ariannol i ddeiliaid tai wedi'i gyfyngu i:
- Eiddo preswyl a ddifrodwyd gan lifogydd, gan ddŵr stormydd yn ystod Storm Bert a Storm Darragh, i le byw mewnol yr eiddo (h.y. ac eithrio garejys, gerddi, adeiladau allanol, portshys ayb);
- Eiddo preswyl a effeithiwyd gan, ac y bu'n rhaid symud allan ohonynt oherwydd llithriad tir (e.e. Cwmtyleri) neu lyncdyllau (e.e. Merthyr Tudful)
- Pobl sydd fel arfer yn preswylio - nid yw ar gael i landlordiaid; ac eiddo gwag (gan gynnwys ail gartrefi)
- Bydd angen i ni gadarnhau bod deilydd yr eiddo yn bodloni'r meini prawf a gofynnir i gwsmeriaid roi gwybod am lifogydd sydd wedi effeithio ar eu heiddo trwy gysylltu â'n tîm Cynllunio Brys a fydd yn dilysu hyn. I roi gwybod amy llifogydd, llenwch y ffurflen ar-lein isod.
- Fel rhan o'r broses o wneud cais am grant, gofynnir i ddeiliaid tai gadarnhau manylion yswiriant a bydd angen iddynt ddarparu manylion cyfrif banc er mwyn derbyn y grant.
Rhybuddion a Chyngor am Lifogydd Rhybuddion a Chyngor am Lifogydd
Ffurflen Hawlio Cymorth Llifogydd i Aelwydydd Ffurflen Hawlio Cymorth Llifogydd i Aelwydydd
Noder: Bydd y ffurflen gais yn cau am 5yp ddydd Iau 2il Ionawr 2025