Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth mae Llywodraethwyr yn ei wneud?

Y Pennaeth sy'n gyfrifol am reoli'r ysgol o ddydd i ddydd. Bydd y llywodraethwyr yn:

  • cytuno ar nodau a gwerthoedd yr ysgol
  • edrych ar ffyrdd o godi safonau a hybu addysgu a dysgu effeithiol, er mwyn i'r disgyblion gyrraedd eu llawn botensial
  • penderfynu beth maent am i'r ysgol ei chyflawni (y weledigaeth) a chreu cynlluniau fydd yn caniatáu i hynny ddigwydd
  • llunio penderfyniadau am gyllideb yr ysgol a chymeradwyo cynlluniau datblygu'r ysgol
  • helpu i osod ac adolygu'r polisïau sy'n darparu fframwaith eang y gall y Pennaeth a'r staff ei ddilyn wrth redeg yr ysgol 
  • monitro ac adolygu cynnydd eu hysgol
  • sicrhau bod anghenion disgyblion unigol yn cael eu diwallu, gan gynnwys anghenion ychwanegol
  • creu cynlluniau gweithredu i wella yn dilyn arolygiadau ysgolion
  • sefydlu a chynnal cysylltiadau positif â'r gymuned leol
  • cefnogi penderfyniadau gweithredu beunyddiol y  Pennaeth

Bydd y rhan fwyaf o lywodraethwyr yn cael eu penodi neu'u hethol i wasanaethu am dymor sy'n para pedair blynedd.