Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Problem gyda llinellau ffôn

Mathau o Lywodraethwyr

Mae sawl math o lywodraethwr. Pa fath bynnag ydych chi, rydych yn y rôl i ddod â'ch barn a'ch profiad chi i'r corff llywodraethwr, ac nid yn cynrychioli barn pobl eraill.

Bydd y corff llywodraethu'n cynnwys y Pennaeth, rhai athrawon-lywodraethwyr ac efallai llywodraethwr o blith y staff sydd ddim yn dysgu. Hefyd, gallai ysgolion eglwys gynnwys llywodraethwr sefydledig. Bydd gweddill y llywodraethwyr yn dod o'r grwpiau canlynol:

 

  • Cymuned

Rhieni disgyblion yr ysgol sy'n ethol rhiant-lywodraethwyr. Pan fydd lle gwag ar gyfer rhiant-lywodraethwr, gofynnir i'r rhieni am enwebiadau, ac os oes mwy nag un yn cael ei enwebu, yna bydd yna etholiad.

 

  • Athro-lywodraethwyr

Mae athro-lywodraethwyr yn cael eu hethol gan gydweithwyr yn yr ysgol.  Mae hyn yn cynnwys athrawon rhan amser a pheripatetig.

 

  • Staff-lywodraethwyr

Mae pob ysgol a gynhelir, heblaw'r rhai sydd â llai na 100 o ddisgyblion, â staff-lywodraethwr ar eu corff llywodraethu.   Maent yn cael eu hethol gan, ac o blith staff nad ydynt yn addysgu yn yr ysgol.

 

  • Llywodraethwyr Sefydledig

Mae llywodraethwyr sefydledig yn cael eu penodi gan y bobl neu'r sefydliadau a enwir yn offeryn llywodraethu'r ysgol.  Llywodraethwyr Sefydledig sy'n gyfrifol am sicrhau fod yr ysgol yn cael ei rhedeg yn unol â'r datganiad o ethos grefyddol.  Os oes gan yr ysgol nodwedd grefyddol, rhaid i'r llywodraethwyr sefydledig gadw a datblygu hyn a rhaid hefyd cydymffurfio â'r weithred ymddiriedolaeth os oes un.

 

  • Awdurdod Lleol

Yr Awdurdod Lleol sy'n penodi llywodraethwyr ALl. Fel arfer, maent yn bobl â sgil benodol a defnyddiol, neu maent yn hysbys am eu gwaith cymunedol a diddordeb mewn addysg.

 

  • Llywodraethwyr Cymunedol Ychwanegol

Y corff llywodraethu sy'n dewis y llywodraethwyr cymunedol. Mae'n bosibl fod ganddynt sgiliau penodol, neu gallant ddod o grwp penodol, er enghraifft y gymuned fusnes.

 

  • Llywodraethwyr Cymunedol Ychwanegol

Cynghorau tref neu gymuned sy'n penodi'r Llywodraethwyr Cymunedol Ychwanegol.

 

 

Cysylltiadau

Dilynwch ni ar

Rhowch sylwadau am dudalen yma