Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Hysbysiad preifatrwydd Hyfforddiant y Gweithlu Gofal Cymdeithasol

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

Er mwyn darparu Hyfforddiant y Gweithlu Gofal cymdeithasol i chi, byddwn ni'n casglu a chadw peth gwybodaeth bersonol amdanoch chi. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Eich enw,
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif y gyflogres (Staff Cyngor Sir Powys yn unig)
  • Mae angen i ni ddefnyddio'r wybodaeth hon fel ein bod ni'n gallu darparu'r hyfforddiant briodol i chi a sicrhau bod eich cofnodion hyfforddi yn cael eu diweddaru'n gywir.

Sut ydym ni'n defnyddio'r wybodaeth hon

Caiff eich cyfeiriad e-bost ei ddefnyddio i gadarnhau eich archeb ac i'ch e-bostio ynghylch unrhyw wybodaeth arall am yr hyfforddiant sydd am ddigwydd.

Gall rhai achlysuron godi pan fydd angen canslo hyfforddiant ar fyr rybudd, er enghraifft, os fydd yr hyfforddwr yn sâl neu'r tywydd yn wael. Os fydd hynny'n digwydd, byddwn ni'n anfon e-bost a byddwn hefyd yn ceisio eich ffonio.

Byddwn ni hefyd yn anfon e-bost atoch chi am unrhyw hyfforddiant yr ydym wedi ei drefnu.

Rydym ni'n gofyn am rif Cyflogres Staff Cyngor Sir Powys i sicrhau ein bod ni'n gallu diweddaru eich cofnodion hyfforddi ar TRENT yn gywir.

Pwy all weld y wybodaeth hon

Mae'r data yr ydym yn ei gadw amdanoch yn cael ei gadw ar gronfa ddata ddiogel oddi fewn i blatfform y wefan, ond dim ond ar gyfer yr Adran Hyfforddi y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gan yr Adran Hyfforddi i brosesu eich archeb.

Ar gyfer hyfforddiant wyneb yn wyneb ac ar-lein byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth gyda'r darparwyr hyfforddi a'u hyfforddwyr.

Cywirdeb ein data

Mae'n bwysig fod y wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch chi yn gywir. Os fydd unrhyw rai o'ch manylion yn newid, diweddarwch eich proffil ar 'Gyfrif Powys'.

Gwybodaeth Bellach

Mae'r wybodaeth hon ar y dudalen hon yn disgrifio'r data sy'n cael ei gadw gan yr adran hyfforddiant. Am ragor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir Powys yn diogelu eich data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data, gweler ein  Hysbysiad Preifatrwydd Corfforaethol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu