Toglo gwelededd dewislen symudol

Tîm Cynhwysiant

Image of different hands holding jigsaw pieces

Grwpiau sy'n agored i niwed - Lleiafrifoedd Ethnig, Saesneg fel Iaith Ychwanegol, (EAL), Sipsiwn, Roma a Theithwyr, Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches, Plant Milwyr

Pa ddisgyblion ydyn ni'n eu helpu?

  • Disgyblion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig sy'n cynnwys:
    • Disgyblion Saesneg fel iaith ychwanegol - unrhyw gam ar yr asesiad caffael EAL
    • Sipsiwn, Roma, Teithwyr
    • Ffoaduriaid o Syria a Cheiswyr Lloches
  • Plant milwyr - Mae'r sefydliad Cynorthwyo Plant Mylwyr yn Ysgolion Cymru yn diffinio Plant Milwyr fel 'unigolion y mae eu rhieni neu brif ofalwyr, yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog parhaol, neu fel Milwr Wrth Gefn, neu sydd wedi gwneud hynny ar unrhyw adeg yn ystod 25 mlynedd cyntaf bywyd yr unigolyn hwnnw'.

Beth ydyn ni'n ei wneud?

  • Darparu dysgu ac addysgu, cefnogaeth a chyngor ar draws rhwydweithiau cymunedol
  • Cynnig help i ddisgyblion, teuluoedd ac ysgolion i sicrhau fod disgyblion yn llwyddo i fod yn rhan o fywyd yr ysgol a'r gwaith dysgu
  • Helpu ysgolion i adnabod plant yn gynnar, a sicrhau darpariaeth ac ymyrraeth effeithiol i ddisgyblion
  • Cydraddoldeb hiliol / Amrywiaeth a chymorth a datblygu'r cwricwlwm
  • Darparu adnoddau ac offer CPD i ysgolion a theuluoedd i helpu wrth ymsefydlu, dysgu ac addysgu disgyblion.

Sut allwch chi dderbyn cefnogaeth?

Mae croeso i chi gysylltu ag un o'r tîm os oes gennych unrhyw gwestiynau ar helpu disgyblion a theuluoedd o grwpiau sy'n agored i niwed, ac edrychwn ymlaen at weithio â chi.

Ebost : tyfu@powys.gov.uk

Ffôn  01597 827108