Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg Gymraeg ym Mhowys

Welsh-medium education in Powys

Mae Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y cyngor yn cefnogi ein nod o wella mynediad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws holl gyfnodau allweddol addysg ym Mhowys. Bydd y strategaeth hefyd yn helpu i fodloni strategaeth 2050 Llywodraeth Cymru i sicrhau un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor baratoi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA). Mae'r Cynllun, sydd wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, yn nodi sut y bydd y cyngor yn datblygu addysg cyfrwng Cymraeg i gynyddu nifer y disgyblion sy'n defnyddio addysg cyfrwng Cymraeg dros y ddeg mlynedd nesaf.

Lawrlwythwch  Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSCA) 2022-2032 (PDF) [594KB] i gael rhagor o wybodaeth.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu