Partneriaeth Natur Powys
Grŵp o sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio ynghyd yw Partneriaeth Natur Powys, er mwyn cydlynu gweithredoedd adfer natur ym Mhowys a'r nod yw rhoi terfyn ar ddirywiad bioamrywiaeth a'i wyrdroi ledled Powys.
Mae hon yn un o 25 o Bartneriaethau Natur Lleol ledled Cymru, sy'n cynrychioli pob rhan o'r wlad ac yn cyfuno i ffurfio rhwydwaith ar draws Cymru o bobl a sefydliadau sydd â gwybodaeth amgylcheddol ac angerdd dros adfer bioamrywiaeth.
Mae Partneriaethau Natur Lleol yn bwynt cyswllt ac yn fyw i gyfleodd gan fod yn llais rhagweithiol dros natur yn eich cymuned. Rydyn ni'n darparu cyngor am fioamrywiaeth, yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd ariannu a chydweithio, grymuso grwpiau cymunedol i weithredu a thargedu gweithgareddau ymgysylltu cymunedol drwy ddefnyddio'r sgiliau sydd ar gael ynddynt a gan aelodau y Bartneriaeth Natur Lleol. Rydym ni'n cydweddu ac yn atgyfnerthu ymdrechion adfer natur cenedlaethol, gan ddarparu cyd-destun lleol a gweithredu ar gyfraddau daearyddol sy'n ystyrlon i gymunedau lleol.
Ein nodau
Nod y Bartneriaeth sy'n cael ei chynnal gan Gyngor Sir Powys, yw adeiladu rhwydweithiau adfer natur cydnerth sy'n fwy ac yn well ac yn fwy cydgysylltiedig.
Bydd llwyddiant Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys yn dibynnu ar gydweithredu ac ymrwymiad hir dymor Partneriaeth Natur Powys. Byddwn yn gwneud y mwyaf o'n hymdrechion drwy weithio gyda'n gilydd a chael rhagor o bobl, sefydliadau, busnesau ac ysgolion i gymryd rhan. Wrth gael pawb i gymryd rhan i adfer natur, gallwn gyflenwi'r gweithredoedd sydd oddi fewn i
Gynllun Gweithredu Adfer Natur Powys. Cynllun Gweithredu Adfer Natur Powys, ein strategaeth ar gyfer adfer natur ym Mhowys.
Aelodaeth
Mae aelodaeth o Bartneriaeth Natur Powys yn agored i sefydliadau ac unigolion sy'n barod i weithio ar y cyd i hybu nodau'r Bartneriaeth ymhellach. Mae croeso i unigolion sydd â sgiliau, amser neu arbenigedd y maen nhw'n barod i'w rhannu er mwyn cyfrannu at y waith y bartneriaeth, ymuno.
Rydym ni'n cynnal dau gyfarfod wyneb yn wyneb bob blwyddyn ac yn cynhyrchu cylchlythyr misol Newyddion Natur Powys, sy'n cael ei e-bostio. Os hoffech ymuno â Phartneriaeth Natur Powys a derbyn Newyddion Natur Powys, cysylltwch â ni. biodiversity@powys.gov.uk
- Cynhelir ein cyfarfod nesaf ddydd Iau 3 Hydref, 10am i 1pm yn Rhaeadr Gwy. Cysylltwch â ni os hoffech fod yn bresennol.
Mae Partneriaeth Natur Powys yn cynnwys Powys gyfan ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Caiff hwnnw ei gynnwys ar wahân gan Gynllun Gweithredu Adfer Natur a Phartneriaeth Natur Lleol . Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Cyswllt
E-bost: biodiversity@powys.gov.uk