Gwaith i wella band eang cymunedau Powys yn mynd yn ei flaen
7 Mehefin 2021
Bu'r cynllun peilot cychwynnol, a ariannwyd gan Arwain, Llywodraeth Cymru a chynllun datblygu gwledig LEADER a ariennir gan yr UE ym Mhowys, yn ogystal â Chynllun Talebau Band Eang Gigabit Gwledig, yn canolbwyntio ar dair cymuned ym Mhowys i wella eu band eang a datblygu pecyn cymorth i helpu cymunedau eraill gyda'r broses.
Ar ddechrau 2021, nodwyd cwmpas yr ardal beilot yng nghymunedau Cynghorau Cymuned Aberedw/ Glasgwm a Ward Rhiwcynon (Dwyriw a Manafon) ochr yn ochr â'r gweithgor prosiect perthnasol.
Yna drafftiwyd llythyrau gan y cynghorau cymuned ac fe'u dosbarthwyd gan y cyflenwr a ddewiswyd sef Broadway Partners. Dylai pob eiddo yn y cymunedau hyn fod wedi derbyn llythyr erbyn hyn.
Hyd yn hyn, mae ychydig dros hanner trigolion Aberedw/Glasgwm wedi cofrestru eu diddordeb, mae nifer y trigolion yn Ward Rhiwcynon (Dwyriw a Manafon) ychydig o dan draean. Byddem yn annog trigolion yn y ddwy gymuned sydd am wella eu cysylltedd i gysylltu gyda'u cyngor cymuned perthnasol.
Mae ein trydedd ardal beilot yn Llanafan Fawr a Llanwrthwl ymhellach ymlaen, ond nid yw'n rhy hwyr i drigolion yn y ddwy gymuned, sydd â diddordeb i wella eu cysylltedd, gofrestru eu diddordeb.
Dywedodd y Cynghorydd Iain McIntosh, Aelod Cabinet ar faterion Datblygu Economaidd: "Rwy'n falch iawn bod y peilot hwn yn ennill momentwm yn sgil llwyddiant y Prosiect Rhyngrwyd a sefydlais yn Yscir, ynghyd â chynlluniau tebyg eraill a sefydlwyd gan gymunedau eraill ym Mhowys. Mae'n brosiect arloesol a fydd o fudd i lawer mwy o drigolion, busnesau a chymunedau ledled y sir.
"Hoffwn annog unrhyw un sy'n byw yn y cymunedau peilot nad ydynt yn derbyn band eang 100mps ar hyn o bryd i gymryd rhan er mwyn cefnogi eu cymuned.
"Mae cysylltiad â'r rhyngrwyd yn rhan mor annatod o gymdeithas heddiw ac rwy'n credu bod pandemig Covid wedi dangos i ni i ba raddau rydym yn dibynnu ar Wi-Fi da, i'n diddanu, i gadw mewn cysylltiad a'n galluogi i weithio gartref.
"O fod yn sir wledig iawn, mae yna heriau o ran cysylltedd, ond rydym ni fel cyngor, yn gweithio'n galed i lenwi'r bylchau a gwella hyn i'n trigolion.
"Bydd gwaith Swyddog Band Eang Cymunedol y cyngor hefyd yn helpu i yrru'r gwaith hwn yn ei flaen a chefnogi holl gymunedau Powys."
Os ydych yn byw yn y cymunedau hyn ac mae gennych ddiddordeb mewn cael band eang ffibr cyflym iawn i'ch eiddo, cysylltwch â'r Swyddog Band Eang Cymunedol drwy anfon neges at broadband@powys.gov.uk
Mae gan bob cymuned ei thudalen Facebook bwrpasol ei hun sef
Cynllun Band Eang Cymuned Aberedw a Glascwm - Hafan | Facebook
Cynllun Band Eang Cymuned Dwyriw a Manafon - Hafan | Facebook
Cynllun Band Eang Cymuned Llanafan Fawr a Llanwrthwl - Hafan | Facebook
Os ydych yn byw ym Mhowys ond nid yn yr ardal beilot a nodwyd ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth am wneud y mwyaf o'ch band eang, gan gynnwys y grantiau a'r cymorth sydd ar gael i helpu i wella cysylltedd, gellir dod o hyd i wybodaeth ar wefan y cyngor - Band Eang - Galluogi Powys Ddigidol - Powys