Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ein gweledigaeth a'n hegwyddorion

Y mae gweledigaeth comisiynu Cyngor Sir Powys yn cynnwys bod yn:

sefydliad comisiynu arloesol, ystwyth sy'n sicrhau gwell deilliannau i'w breswylwyr drwy gomisiynu'r gwasanaethau cywir oddi wrth y darparwr cywir, ar yr adeg gywir ac am y pris cywir.

Ein hegwyddorion

Fel cyngor comisiynu rydym ni'n ymroddedig i ddatblygu ymarfer comisiynu o ansawdd uchel sydd wedi ei danategu gan set o egwyddorion comisiynu craidd gosodedig. I'r perwyl hwnnw, rydym ni'n ymroddedig i sicrhau'r canlynol

  • Deilliannau - byddwn ni'n canolbwyntio ar Gomisiynu ar gyfer Deilliannau yn hytrach na chomisiynu gwasanaethau gan ddefnyddio pecyn offer comisiynu'r Cyngor
  • Monitro - byddwn ni'n defnyddio trefn gadarn o ran monitro a rheoli cyflenwr i sicrhau gwireddu buddion ac uchafu gwelliant parhaus
  • Hunan ddibyniaeth - byddwn ni'n gweithio â phreswylwyr, defnyddwyr gwasanaeth, gwirfoddolwyr a grwpiau gwirfoddol, cyrff cymunedol, busnesau a'n partneriaid i helpu pobl i fod yn fwy hunan-ddibynnol ac adeiladu cymunedau cryfach
  • Cyflenwi lleol - byddwn ni'n canolbwyntio ar ymgysylltu cymunedol, ymgysylltu â chyflenwr a darparwr, cyflenwi gwasanaethau a mynediad i'r cyhoedd, gan weithio gyda'r holl randdeiliaid.
  • Gwasanaethau a Werthfawrogir - rydym ni'n blaenoriaethu gwasanaethau sy'n cyflenwi deilliannau ar gyfer Powys gwell ac yn canolbwyntio ar grwpiau bregus