Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ein Dull Gweithredu

Mae dull gweithredu Comisiynu Cyngor Sir Powys yn cael ei arwain yn gryf gan ddeddfwriaeth genedlaethol ac arferion gorau, yn ogystal â'n Strategaeth Iechyd a Gofal ar y cyd, 'Powys Iach, Ofalgar'.

Hwn ceisio gwella iechyd a llesiant y boblogaeth, gwella sut y caiff gwasanaethau iechyd a gofal eu darparu, a datblygu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i bobl a chymunedau drwy gefnogi pobl drwy gydol eu bywyd fel eu bod yn gall Dechrau'n Dda, Byw'n Well a Heneiddio'n Dda.

Am wybodaeth bellach am 'Bowys Iach, Ofalgar' a sut yr ydym yn gweithio mewn partneriaeth ewch i  Gwefan BPRh Powys

Pan fo'n gwneud synnwyr i ni wneud hynny, byddwn ni hefyd yn datblygu strategaethau a chynlluniau penodol ar gyfer grwpiau penodol o bobl drwy gydol eu bywyd.

Dadansoddi

Mae'r cam hwn yn ymwneud â chasglu gwybodaeth a'i defnyddio i ddeall beth sydd ei angen ar bob lefel. Byddwn ni'n adolygu amrywiaeth o wybodaeth ar draws ddeddfwriaeth, cyfarwyddyd, arferion gorau, a darpariaeth gyfredol y gwasanaeth, a chyflawni dadansoddi o randdeiliaid.  Yn ychwanegol, mae ein dealltwriaeth o angen yn cael ei llywio gan y dogfennau allweddol canlynol oddi fewn i'r rhanbarth:

Cynllun

Mae'r holl gam cynllunio yn ymwneud â phennu sut y gellir bodloni'r anghenion orau, a beth gellir ei osod yn ei le er mwyn gwneud hynny. Mae'n cynnwys dealltwriaeth o'r farchnad, dylunio'r gwasanaeth a gwneud penderfyniad, a throsi'r blaenoriaethau a ddynodwyd yn y cam dadansoddi i mewn i wasanaethau go iawn.

Gwneud

Yn ystod y cam hwn, byddwn yn gosod mewn lle y gwasanaeth a gafodd ei ddynodi fel un angenrheidiol.

Mae'r cam hwn yn ymwneud â datblygu'r farchnad, sicrhau contractau a chytuno ar fodd o dalu darparwyr. Rydym ni'n rhestru cyfleoedd penodol ar gyfer sefydliadau allanol i ddarparu gwasanaethau ar ein tudalennau caffael drwy GwerthwchiGymru

Adolygiad

Mae'r cam adolygu yn ymwneud â sicrhau fod yr hyn sy'n cael ei ddarparu yn diwallu anghenion a chyflawni'r dynodydd deilliannau yn gynt yn y broses. Rydym yn gosod adrodd a monitro trylwyr mewn lle i sicrhau hyn, ac mae hyn yn helpu i fwydo i mewn i'r camau dadansoddi fel rhan o unrhyw ymarferion ail gomisiynu a gynlluniwyd yn y dyfodol.

Rhagor o Wybodaeth

Am y newyddion a'r datblygiadau diweddaraf oddi wrth Gyngor Sir Powys ewch i'n sianeli cyfryngau cymdeithasol a chwilio am '#comisiynu' 

Facebook Powys County Council | Facebook

Twitter / X X (twitter.com)

Gallwch gysylltu â'r uned gomisiynu'n uniongyrchol drwy e-bostio: pccsscommissioning@powys.gov.uk.