Toglo gwelededd dewislen symudol

Pasys bws ysgol - Cwestiynau Cyffredin Cwsmeriaid

C.  Dwi wedi anghofio'r pas bws, beth ddylwn i ei wneud?

Paid poeni, os nad yw'r pas bws gyda ti, gallu di roi'r côd i'r gyrrwr yn lle.  Os nad wyt ti'n cofio'r côd, bydd y gyrrwr yn gadael i ti fynd i'r ysgol ond rhaid i ti fynd yn syth i swyddfa'r ysgoli gadarnhau ar ba fws rwyt ti wedi teithio ac i gael y côd ar gyfer y ffordd adref.

 

C.  Beth sy'n digwydd os byddai'n colli'r pas bws?

Bydd angen i ti gysylltu â'r tîm cludiant i gael pas arall.  Bydd pob cerdyn newydd yn costio £5 a bydd rhaid i ti dalu dros y ffôn, felly gwna dy orau i'w gadw'n ddiogel.  Bydd y pas gwreiddiol yn cael ei ganslo, felly os byddi di'n dod o hyd iddo, rho fe yn y bin.

 

C.  A fydd rhywun arall yn gallu defnyddio'r pas bws neu fy nghôd i?

Mae'r côd QR a'r rhif sydd ar y pas bws yn unigryw i ti.  Paid â'u rhannu ag unrhyw un arall.  Os bydd rhywun arall yn defnyddio dy bas bws neu'r côd, bydd rhaid i ti gysylltu â'r tîm cludiant a fydd yn canslo'r pas hwn ac yn rhoi un arall i ti gyda chôd QR a rhif arall.  Bydd y cerdyn newydd yn costio £5 a bydd rhaid i ti dalu dros y ffôn.

 

C.  Alla'i fynd ar unrhyw fws?

Na, dim ond ar y teithiau / gwasanaethau rwyt ti fod i fynd arnynt.  Bydd y rhain i'w gweld ar y pas bws.

 

C.  Weithiau rwy'n dal y bws o dŷMam a weithiau rwy'n mynd o dŷDad.  A fydd y pas yn dal i weithio?

Os oes gen ti bas yn barod i deithio ar wahanol fysus i fynd i ddau dŷ gwahanol, yna byddi di'n gallu gwneud yr un fath gyda'r pas newydd.   Bydd y pas yn dangos ar ba deithiau / gwasanaethau rwyt ti'n cael eu defnyddio.

Ond, os mai dim ond un lleoliad sydd ar y pas, bydd angen i riant / rhieni wneud cais am le ar daith / gwasanaeth arall trwy lenwi ffurflen gais ar-lein.  Byddi di'n gallu mynd i leoliad arall dim ond os oes cyfrifoldeb rhiant a bod y cyfeiriad o fewn dalgylch / ardal filltiroedd yr ysgol.

 

C.  A fydd ffrind yn gallu dod adref ar y bws gyda fi? 

Na sori.  Ni allwn ganiatau i fyfyrwyr sydd heb bas bws dilys i deithio ar fysus.  Os wyt ti am fynd adref gyda ffrind, bydd rhaid i ti drefnu i riant i'ch casglu chi o'r ysgol neu wneud trefniadau eraill i dy ffrindiau.

 

C.  Mae fy mhlentyn yn mynychu darpariaeth ADY, a fydd ganddyn nhw bas?

Os ydyn nhw'n mynd i ysgol brif ffrwd ac yn defnyddio cludiant o'r cartref i'r ysgol, yna bydd ganddyn nhw bas.  Os ydyn nhw'n defnyddio cludiant ADY, nid oes angen  pas ar hyn o  bryd ac ni fyddan nhw'n derbyn pas.

 

C.  Sut mae cysylltuâ'r tîm cludiant?

Anfonwch e-bost neu codwch y ffôn:

transport.applications@powys.gov.uk

Sarah Leyland-Morgan - 01597 826615

Milly Taylor - 01597 826310

Jenny Chessell - 01597 826678