Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Pasys bws ysgol Powys

I gyd-fynd â'r flwyddyn academaidd newydd (2021/22), bydd pob dysgwr ym Mhowys sy'n defnyddio'r gwasanaeth cludiant rhwng y cartref a'r ysgol yn derbyn pas bws newydd.

Bydd y pasys bws newydd yn cynnwys cod QR unigryw fydd yn cael ei sganio gan y gyrrwr bob tro bydd y disgybl yn defnyddio'r bws.  Nid yw'r cod QR yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol am y disgybl.  Y cyfan mae'n ei wneud yw tracio pwy a faint sydd ar ba fws neu gludiant arall o'r cartref i'r ysgol, ar unrhyw un adeg.

Trwy sganio'r pas bws bob tro, gallwn weld yn hawdd pa ddysgwyr sydd ar ba fws er mwyn gallu cydymffurfio â rheolau Covid 19 ac at ddibenion tracio, olrhain a diogelu.

Mae hyn yn sicrhau y gallwn gadw dysgwyr a staff yn ddiogel os bydd argyfwng neu os bydd achosion eraill o'r coronafeirws yn y dyfodol.

Nid yw'r pas bws newydd yn golygu y bydd y gwasanaeth cludiant presennol o'r cartref i'r ysgol yn newid mewn unrhyw ffordd.

Dy bas bws ysgol newydd:
Delwedd o docyn bws ysgol

  • Mae'r pas bws newydd yn dangos dy enw, cod QR, cod ysgrifenedig, mis a blwyddyn eich geni a'r gwasanaethau bws y mae gennyt hawl i'w ddefnyddio ar y ffordd i ac o'r ysgol.
  • Dylet deithio ar y gwasanaethau bws a nodir ar y pas yn unig.
  • Gwna nodyn o'r cod ysgrifenedig - byddi di ei angen os byddi di'n colli neu'n anghofio'r pas.
  • Cofia fynd â'r pas bws gyda ti i'r ysgolbob dydd.
  • Bob tro y byddi di'n mynd ar y bws (ar y ffordd i'r ysgol ac ar y ffordd adref), bydd y gyrrwr yn sganio'r cod QR ar y pas.
  • Gyda hyn, byddwn yn gwybod yn union pwy sydd ar y bws rhag ofn y bydd yna argyfwng neu os bydd achos o'r coronafeirws.

Rwy wedi anghofio'r pas bws

  • Paid poeni - os wyt ti wedi anghofio'r pas, fe alli di roi'r cod i'r gyrrwr.
  • Os nad wyt ti'n cofio'r cod, bydd y gyrrwr yn gadael i ti fynd i'r ysgol ond bydd rhaid i ti fynd yn syth i swyddfa'r ysgoli gadarnhau ar ba fws wyt ti wedi teithio ac i gael dy god ar gyfer y daith adref.
  • Cofia dy bas y diwrnod canlynol.

Gwyliwch y fideo byr yma i ddysgu sut i ddefnyddio'r pàs bws ysgol newydd:

Pasys bws ysgol - Cwestiynau Cyffredin Cwsmeriaid