Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trosglwyddo i Ddigidol

Gwybodaeth bwysig am eich larwm cymunedol gan y llinell ofal

Oeddech chi'n gwybod bod rhwydwaith ffonau presennol y DU yn cael ei uwchraddio? Bydd system ddigidol gyfoes yn cymryd lle'r system analog gyfredol. Disgwylir i'r newidiadau gael eu cwblhau erbyn 2025, ond mae'r gwaith wedi cychwyn eisoes.

Pan fydd darparwr eich llinell ffôn yn cysylltu â chi i newid i'r system newydd, mae'n bwysig ichi ddweud wrthynt fod gennych larwm y Llinell Ofal, ac y dylid eich ystyried fel 'cwsmer agored i niwed'. Mae hyn oherwydd y bydd y newid yn effeithio ar eich system gyda'r Llinell Ofal, a dylen nhw ystyried hyn wrth gynllunio eich uwchraddio i'r system ffonau newydd.

Os ydych chi wedi newid eich gwasanaeth ffôn neu fand llydan yn ddiweddar, hwyrach ichi gael eich symud i'r system newydd yn barod. Os oes gennych linell ffôn digidol bellach, dylech adael inni wybod am hyn er mwyn inni ddiweddaru ein cofnodion.  Fel arall, nid oes rhaid ichi gysylltu â ni eto.

Os ydych chi wedi trosglwyddo i'r system newydd, hwyrach y bydd eich bil gan y cwmni ffôn yn cyfeirio at wasanaeth ffôn digidol neu lais digidol neu VoIP (Voice Over Internet Protocol). Ni fydd ffôn eich llinell dir bellach yn cysylltu â soced ar y wal; bydd yn cysylltu â hyb neu lwybrydd fydd yn cael ei ddefnyddio efallai ar gyfer eich gwasanaeth band llydan/wi-fi efallai. Os nad yw darn llaw eich ffôn yn agos i'r hyb, gellir ei gysylltu ag addaswr arbennig yn lle.

Mae mwy o wybodaeth am y newidiadau i'r rhwydwaith ffonau ar y gwefan canlynol.

https://www.ofcom.org.uk/phones-telecoms-and-internet/advice-for-consumers/future-of-landline-calls

Gwybodaeth bwysig am effaith toriad pŵer o dan y system ffonau newydd

Os ydych chi eisoes wedi trosglwyddo i'r system newydd, neu pan fyddwch yn trosglwyddo, os bydd toriad pŵer, ni fyddwch yn gallu derbyn na gwneud galwadau ar y llinell dir. Hefyd bydd y toriad pŵer yn effeithio ar y cysylltiad rhwng eich Llinell Ofal a'r ganolfan alwadau. Hwyrach y bydd gan ddarparwyr gwasanaeth gwahanol ar gyfer y ffôn/band llydan (e.e. BT, Vodaphone, Talk-Talk) atebion gwahanol mewn achos o'r fath, er enghraifft, trwy ddarparu system batri [allanol] wrth gefn ar gyfer yr hyb neu'r llwybrydd. Dylech siarad â'ch darparwr ffôn i sicrhau y byddwch yn gallu gwneud galwad 999 i'r gwasanaethau brys os oes angen yn ystod toriad pŵer.

Gofynnir ichi rannu'r llythyr hwn gyda'r unigolion cyswllt brys sydd gennych gyda'r Llinell Ofal.

Hwyrach y bydd yn syniad da cadw copi o'r llythyr hwn yn ymyl teclyn y Llinell Ofal. Mae'n bwysig eich bod yn profi eich system Llinell Ofal bob mis. Gwasgwch eich larwm gwddf neu'r botwm coch ar uned eich larwm i sicrhau ei fod yn cysylltu â'r ganolfan alwadau. Cofiwch adael inni wybod os bydd problem yn codi wrth ichi brofi'r teclyn.