Llinell Ofal Powys
Rhybudd Sgam
Noder ni fydd Careline Powys byth yn ffonio cwsmeriaid yn ddiwahoddiad a gofyn am arian neu fanylion banc dros y ffôn.Os oes gennych unrhyw bryderon, dylech ffonio 01597 827639.
Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)
Mae rhai o'n cwsmeriaid Llinell Ofal gwerthfawr wedi dweud eu bod wedi derbyn galwadau ffôn gan rywun sy'n honni eu bod o'r Llinell Ofal, yn gofyn am fanylion banc/taliadau dros y ffôn.
Os ydych chi'n gwsmer Llinell Ofal, neu'n adnabod rhywun sy'n gwsmer, cofiwch NA fyddai ein staff Llinell Ofal BYTH yn gofyn am eich manylion banc dros y ffôn.
Os byddwch yn derbyn galwad o'r fath, PEIDIWCH â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol neu daliad a rhowch wybod i ni ar unwaith am y digwyddiad.
Dyma ddau ddiweddariad pwysig arall y dylech fod yn ymwybodol ohonynt hefyd:
Er na fydd ein cydweithwyr Llinell Ofal BYTH yn gofyn am fanylion talu dros y ffôn, byddant weithiau'n galw cwsmeriaid ac yn gofyn iddynt brofi eu hoffer Llinell Ofal. Os ydych yn gwsmer Llinell Ofal ac nad ydych wedi gwneud hynny'n ddiweddar, ystyriwch brofi eich offer heddiw.