Nid ydych wedi defnyddio'r ffurflen hon ers tro - i amddiffyn eich data, bydd y sesiwn ffurflen yn dod i ben yn fuan
Mae rhai o'r cwcis hyn yn hanfodol, tra bydd eraill yn ein helpu i wella'ch profiad trwy adael i ni weld sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio
Am wybodaeth fanylach, gwelwch y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi gweithrediadau craidd megis mewngofnodi i'r wefan.
Ni fydd y wefan yn gweithio'n iawn heb y cwcis yma, ac ni allant ond cael eu hanalluogi trwy newid dewisiadau'ch porwr.
Hoffem osod cwcis Google Analytics i'n cynorthwyo i wella ein gwefan trwy gasglu ac adrodd gwybodaeth ar sut ry'ch chi'n ei defnyddio.
Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn dull nad yw'n datgelu enw neb.
I gael mwy o wybodaeth ar sut mae'r cwcis hyn yn gweithio, edrychwch ar y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Cadwyd eich dewisiadau cwcis
Mae Trwyddedau Cerbyd neu Ôl-gerbyd Masnachol (CVT) yn caniatáu i ddeiliaid tai ddefnyddio’u cerbyd neu’u hôl-gerbyd masnachol i fynd â’u sbwriel a’u gwastraff ailgylchu o’u cartrefi i’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff o’r Cartref (HWRC).Darllenwch yr amodau a thelerau llawn cyn ymgeisio am drwydded.
Nid yw’r trwyddedau hyn i’w defnyddio gan fusnesau i waredu eu sbwriel a’u gwastraff ailgylchu masnachol, ac mae hi’n drosedd gwneud hynny. Nid ydym yn caniatáu i fusnesau waredu eu gwastraff gweddilliol yn ein HWRC, ond rydym yn cynnig trwydded gwahanol i ganiatáu iddynt waredu rhai deunyddiau ailgylchadwy am ffi. Am fanylion y drwydded hon, cysylltwch â'r tîm Contractau Gwastraff ar 01597 826000 neu drwy anfon e-bost at waste.contracts@powys.gov.uk
Os nad oes gennych chi drwydded CVT ond bod angen un arnoch, gallwch wneud cais am un yn ddigon rhwydd ar-lein. Rydym yn prosesu trwyddedau cynted ag y gallwn, ond rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi am eich cais, gadewch 10 diwrnod gwaith i osgoi cael eich siomi.
Os oes angen i chi adnewyddu eich trwydded, ac os yw’r cyfeiriad a manylion eich cerbyd heb newid er y tro diwethaf, gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio’r ddolen isod.
Os ydych wedi colli eich trwydded, gallwch ei ailgyflwyno trwy ddefnyddio’r ddolen isod.
Os ydych wedi symud tŷ o fewn Powys neu wedi newid eich cerbyd, rhowch wybod i ni trwy ddefnyddio’r ddolen isod. Bydd angen i chi ddarparu’r dogfennau perthnasol wedi’u diweddaru.
Amodau a Thelerau
Rhannu'r dudalen hon
Argraffu