Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Trwydded Cerbyd Masnachol neu Drelar (CVT): Newid cyfeiriad neu gerbyd

Image of a white van

Newid cyfeiriad

Os ydych chi wedi symud tŷ ym Mhowys, mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl.

Mae trwyddedau yn gysylltiedig â'r cerbyd a'r cyfeiriad, felly hyd nes y byddwch chi'n rhoi gwybod i ni, ni fyddwch yn gallu archebu ymweliad o dan eich cyfeiriad newydd gyda'r cerbyd a ganiatawyd. Yn ogystal, efallai y bydd yn rhaid i ni ddiddymu eich trwydded os oes angen i breswylwyr newydd eich hen dŷ wneud cais am un. Os fydd hyn yn digwydd, bydd angen i chi wneud cais o'r newydd ar gyfer eich eiddo newydd.

I ddweud wrthym am eich cyfeiriad newydd, cysylltwch â'r tîm Contractau Gwastraff yn waste.contracts@powys.gov.uk ac atodwch ddogfen sy'n profi'r cyfeiriad diweddar (bil treth gyngor/cyfleustodau neu ddatganiad banc dyddiedig o fewn y tri mis diwethaf, trwydded yrru cerdyn â llun dilys).

Os ydych yn dymuno postio copïau o'r dogfennau perthnasol, dylech eu hanfon i'r cyfeiriad canlynol: Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG.

Newid cerbyd

Os ydych chi wedi gwerthu neu newid eich cerbyd, mae'n bwysig eich bod chi'n rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl.

Fel rhan o'r system archebu , byddwn yn gofyn am rif cofrestru eich cerbyd i ddilysu'ch trwydded, felly mae angen i hyn fod yn gyfredol yn ein cronfa ddata. Ni fydd staff y safle yn caniatáu mynediad i gerbydau neu drelars sydd heb drwydded ond sydd angen trwydded.

Os ydych yn dymuno postio copïau o'r dogfennau perthnasol, dylech eu hanfon i'r cyfeiriad canlynol: Gwasanaethau Gwastraff ac Ailgylchu, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu