Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynllun Cymorth Tanwydd 2022/23

Er mwyn cynorthwyo aelwydydd Powys sydd ar incwm isel, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Cynllun Cymorth Tanwydd ar gyfer 2022.

Mae'r cynllun hwn yn agor ar 26 Medi 2022
Os ydych yn gymwys am y grant ac os dywedwn wrthych am wneud cais yna mae'n rhaid i chi wneud hynny erbyn 5pm ddydd Mawrth 28 Chwefror 2022. Ni allwn dderbyn ceisiadau ar ôl y dyddiad hwnnw

Ni fyddwn yn gwneud gwobrau awtomatig ond rydym yn gobeithio prosesu'r ceisiadau'n gyflym ar gyfer y rhai lle gallwn weld hawl cymwys i dderbyn budd-daliadau yn ein systemau'n barod.

Gall unrhyw gartrefi sy'n derbyn budd-dal incwm isel fod â hawl i daliad untro o £200 gan Gyngor Powys er mwyn darparu rhywfaint o gymorth tuag at dalu biliau tanwydd.

Beth yw incwm isel?

I gael y grant hwn rhaid i chi neu'ch partner gael un o'r buddion canlynolar unrhyw ddiwrnod rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023:

  • Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor (CTRS)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Cysylltiedig ag Incwm
  • Credyd Cynhwysol
  • Credydau Treth Gwaith
  • Credydau Treth Plant
  • Credyd Pensiwn
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Lwfans Byw i Bobl Anabl (DLA)
  • Lwfans Presenoldeb
  • Lwfans Gofalwyr gan gynnwys unrhyw un sydd â hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwyr ond nad ydynt yn derbyn unrhyw arian oherwydd rheolau budd-daliadau sy'n gorgyffwrdd
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Gyfraniadau/Arddull Newydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Gyfraniadau/Arddull Newydd
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Presenoldeb Cyson
  • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

 

NEU rydych hefyd yn gymwys os yw plentyn dibynnol neu oedolyn dibynnol (neu ei bartner/ei phartner) yn byw ar eich aelwyd AC ar unrhyw ddiwrnod rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023, mae'n yn cael un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Presenoldeb Cyson
  • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

 

Pa Fathau o danwydd sy'n gymwys?

Sylwch nad oes ots sut rydych chi'n talu am eich tanwydd nac yn bwysig os yw ar y grid neu oddi ar y grid.

Fe'ch ystyrir fod gennych fath cymwys o danwydd os:

Ry'ch chi'n atebol am dalu Dreth y Cyngor

Neu

Ry'ch chi'n talu'r biliau ynni yn eich cartref.

 

Rhaid i'r eiddo rydych chi'n ei hawlio amdano fod yn unig neu'n brif breswylfa

Dim ond unwaith y gallwch wneud cais am yr eiddo

Beth yw'r broses ymgeisio?

Byddwn yn cysylltu â phawb sy'n derbyn y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor neu sydd wedi derbyn taliad o dan y cynllun Grant Gofalwyr Di-dâl i'ch gwahodd i wneud cais am y grant hwn. Wedyn, byddwn ni'n gallu prosesu llawer o'r rhain yn gyflym.

Os nad ydych yn derbyn Gostyngiad Treth y Cyngor neu os na chawsoch y grant Gofalwyr Di-dâl, yna ni fyddwn yn gallu cysylltu â chi'n uniongyrchol ac mae angen i chi wneud cais heb lythyr i ni.

Os ydych yn llwyddiannus:

Bydd y taliadau'n cael eu gwneud cyn gynted â phosibl a hyd at fis Mawrth 2023.

Byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost i roi gwybod bod taliad ar y ffordd.

Os nad ydych yn llwyddiannus:

Bydd eich cais yn cael ei wrthod os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwyso. Ni allwch apelio na gofyn am adolygiad o'ch cais. Fe wnawn adael i chi wybod pam na chawsoch y dyfarniad. Efallai y gallwn barhau i'ch helpu os oedd gwybodaeth yn anghywir neu ar goll o'ch cais.

Mae angen i chi fod â'r wybodaeth neu'r dystiolaeth ganlynol wrth law:

Bydd angen fod â'r canlynol yn barod ar gyfer pawb ar eich aelwyd:

  • Eich Rhif(au) Yswiriant Gwladol
  • Eich Dyddiadau Geni
  • Eich cyfeirnod Hawlio  or cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor (os oes un gennych)
  • Enw a rhif cyfeirnod eich darparwr tanwydd
  • Eich cyfeirnod Treth Cyngor (os oes un gennych)
  • Os nad ydych yn talu Treth y Cyngor yn yr eiddo a'ch bod yn talu am eich tanwydd â bil, copi o'ch bil ynni diweddaraf neu anfoneb i'w lanlwytho (fel dogfen PDF)
  • Os nad ydych yn talu Treth y Cyngor yn yr eiddo AC os oes gennych fesurydd rhagdalu, yna bydd angen i chi anfon eich cadarnhad e-bost diweddaraf o ragdaliad atodol diweddar a chopi wedi'i sganio neu lun o dderbyneb pwynt Talu/tebyg o ragdaliad atodol diweddar neu ap dyfais mesurydd safonol neu ddangosfwrdd cyfrif ar-lein.

Hefyd:

Efallai bydd rhai aelwydydd sy'n derbyn  budd-daliadau incwm isel penodol â hawl i dâl un-tro arall o £150 gan Gyngor Sir Powys os ydynt yn gyfrifol am dalu biliau gwresogi oddi ar y grid.

Sylwch:  Dim ond unwaith fydd rhaid ymgeisio ar gyfer y ddau gynllun isod.  Byddwn yn gweithio allan o'r wybodaeth a roddwch wrth wneud cais, os ydych yn gallu derbyn y tâl ychwanegol neu beidio ac fe wnawn roi gwybod i chi.

Gwnewch gais yma yn dod yn fuan

Os oes angen help arnoch i wneud cais neu gael cymorth mewn perthynas â budd-daliadau neu ddyfarniadau yn gyffredinol, ffoniwch ni ar 01597 826345.