Cymorth Busnes
Business Support info

Dechrau Busnes ym Mhowys
Ydych chi'n meddwl am ddechrau eich busnes eich hun ym Mhowys? Rydym yma i'ch helpu chi i gymryd y camau cyntaf yn hyderus. P'un a ydych yn datblygu syniad newydd neu'n troi angerdd yn broffesiwn, mae Cyngor Sir Powys a'n partneriaid yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i'ch arwain drwy'r broses.
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Dechrau Busnes ym Mhowys)
Tyfu Eich Busnes ym Mhowys
Yng Nghyngor Sir Powys, rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau lleol ar bob cam o'u taith — o ddechrau busnes i gynyddu busnes. Os ydych yn barod i dyfu eich busnes, gallwn eich helpu i gael mynediad at yr offer, y cyngor a'r cyllid sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Tyfu Eich Busnes ym Mhowys)
Grantiau a Chyllid
Cyllid newydd yn cael ei ryddhau! Mae Grant Busnes Cyfalaf Powys (a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin) yn cynnig grantiau rhwng £5,000 a £25,000 i gefnogi prynu offer sy'n hybu cynhyrchiant neu'n helpu busnesau i fabwysiadu technolegau gwyrddach. Mae'r meini prawf cymhwysedd yn berthnasol.
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Grantiau a Chyllid)
Gweld manylion eiddo sydd ar werth neu i'w rhentu
Mae'r Cyngor yn berchen ar eiddo sy'n cael ei ddefnyddio wrth ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau i'r cyhoedd. Rydym yn cadw mapiau'r Arolwg Ordnans sy'n dangos ffiniau'r holl dir sy'n perthyn i ni, yn ogystal â manylion yr holl bryniannau a gwerthiannau, ynghyd â phrydlesi, cytundebau gosod, trwyddedau a hawddfreintiau.
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Gweld manylion eiddo sydd ar werth neu i'w rhentu)
Parhad Busnes
Mae cynllunio parhad busnes yn golygu sicrhau fod eich busnes yn cael ei baratoi petai'r annisgwyl yn digwydd. Mae gan Gyngor Sir Powys ddyletswydd i hybu parhad busnes i'r sectorau busnes a gwirfoddol trwy eu hannog i gynllunio ar gyfer trychinebau fel llifogydd, tanau, colli pŵer a cholli staff allweddol.
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Parhad Busnes)
Rhwydweithiau a Chyfeiriadur Busnes
Mae Powys yn gartref i gymuned fusnes amrywiol, gyda chwmniau sy'n cynnig ystod o gynnyrch a gwasanaethau i'w cwsmeriaid. Mae yna sawl clwstwr o fusnesau, rhwydweithiau a chlybiau yn yr ardal sy'n rhoi'r cyfle i fusnesau rhwydweithio a dynodi cyfleoedd i gydweithio, datblygu cadwynni cyflenwi a chyfleoedd am werthiant.
Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Rhwydweithiau a Chyfeiriadur Busnes)