Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ailgylchu Masnachol - Cwestiynau Cyffredin

Pam nad ydych yn casglu gwastraff dros ben (gweddilliol)/cyffredinol bob wythnos?

Trwy leihau pa mor aml rydym yn casglu gwastraff gweddilliol/cyffredinol, ein nod yw symud pwyslais y gwasanaeth i ailgylchu. Bydd hyn yn annog cwsmeriaid masnachol i ailgylchu mwy o'u gwastraff a thaflu cyn lleied o wastraff ag y bo modd.

Mae nifer o resymau am hyn:

  • Mae'r cyngor wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon trwy nifer o ddulliau, gan gynnwys gwneud arbedion effeithlonrwydd a gwelliannau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth newydd y flwyddyn nesaf a fydd yn gofyn i bob busnes wahanu ei wastraff a'i ailgylchu cyn ei gasglu. Bydd taflu deunydd a ellir ei gasglu ar gyfer ailgylchu'n fwriadol yn anghyfreithlon. Ar ben hyn, ni fydd casglwyr gwastraff masnachol ond yn cael casglu gwastraff ac ailgylchu sydd wedi cael ei gyflwyno ar wahân.
  • Mae dyletswydd gofal ar bob busnes, sefydliad ac elusen, yn ôl y gyfraith, i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu'n gywir a dilyn yr hierarchaeth gwastraff; i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu cyn cael gwared â fe.
  • Mae gan bob un ohonom rwymedigaeth foesol i leihau ein gwastraff, i ailgylchu lle bo modd, a sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan wrth ofalu am yr amgylchedd a lleihau ein heffaith ar newid yn yr hinsawdd.

A fydd newid i ba mor aml y byddwch yn casglu gwastraff ailgylchu?

Na fydd, byddwn yn casglu ailgylchu yr un mor aml.

Pryd fydd hyn yn dechrau?

Ni fyddwn yn casglu gwastraff cyffredinol/gweddilliol bob wythnos o fis Ebrill 2022. Bydd y casgliad wythnosol yn symud i bob pythefnos.

Felly a fyddwch yn rhoi mwy o finiau i mi - neu finiau mwy o faint - ar gyfer gwastraff cyffredinol/gweddilliol wrth i chi gasglu bob pythefnos?

Na fyddwn, ni fyddwn yn rhoi biniau mwy o faint i chi, neu fwy o finiau ar gyfer gwastraff gweddilliol/cyffredinol yn awtomataidd, oni bai'ch bod yn gofyn am hynny.

Er mwyn addasu i'r newidiadau hyn, bydd rhaid i chi ystyried eich gofynion o ran gwastraff ac ailgylchu ar gyfer y dyfodol. Wrth benderfynu pa gasgliadau ailgylchu masnachol y bydd eu hangen arnoch o fis Ebrill 2022, hoffen ni i chi ailgylchu mwy i leihau faint o ysbwriel dros ben rydych yn ei daflu i ffwrdd.

Cofiwch, gallwn gynnig casgliadau ailgylchu ar gyfer cardfwrdd a phapur, plastigau a chaniau,  gwydr, bwyd a gwastraff gardd. Mae bron bob amser yn rhatach ailgylchu na thaflu i ffwrdd.  Rydym yn fwy na pharod i drafod y dewisiadau â chi a helpu i gael ateb i beth fydd yn gweithio orau i'ch anghenion unigol.

Beth fydd hynny'n ei olygu i mi? Sut fydda i'n dod i ben?

Er ein bod yn deall y gallai hyn achosi rhywfaint o anghyfleustra, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud y newidiadau hyn i sicrhau ein bod yn parhau i gynnig gwasanaeth cost-effeithiol ac effeithlon gyda mwy o bwyslais ar ailgylchu.

Er mwyn addasu i'r newidiadau hyn, bydd rhaid i chi ystyried eich gofynion o ran gwastraff ac ailgylchu ar gyfer y dyfodol. Wrth benderfynu pa gasgliadau ailgylchu masnachol y bydd eu hangen arnoch o fis Ebrill 2022, hoffen ni i chi ailgylchu mwy i leihau faint o ysbwriel gweddilliol rydych yn ei daflu.

Cofiwch, gallwn gynnig casgliadau ailgylchu ar gyfer cardfwrdd a phapur, plastigau a chaniau, gwydr, bwyd a gwastraff gardd. Mae bron bob amser yn rhatach ailgylchu na thaflu i ffwrdd.  Rydym yn fwy na pharod i drafod y dewisiadau â chi a helpu i gael ateb i beth fydd yn gweithio orau i'ch anghenion unigol.

Beth yw fy newisiadau?

Yn lle cael mwy o le i gadw mwy o wastraff gweddilliol/cyffredinol ar gyfer wythnos ychwanegol, gallwch ailgylchu mwy neu ychwanegu mwy o wastraff at eich casgliad ailgylchu wythnosol.

Er enghraifft, os nad oes gennych un yn barod, byddai ychwanegu casgliad gwastraff bwyd at eich casgliad yn golygu y byddwn yn casglu'ch holl wastraff bwyd bob wythnos. Bydd hyn yn creu mwy o le yn eich bin gwastraff gweddilliol/cyffredinol. Hefyd byddai'n cadw'r bin yn lanach ac yn sychach ar gyfer casgliad bob pythefnos.

Cofiwch, gallwn gynnig casgliadau ailgylchu ar gyfer cardfwrdd a phapur, plastigau a chaniau, gwydr, bwyd a gwastraff gardd. Mae bron bob amser yn rhatach ailgylchu na thaflu i ffwrdd.  Rydym yn fwy na pharod i drafod y dewisiadau â chi a helpu i gael ateb i beth fydd yn gweithio orau i'ch anghenion unigol.

Biniau o ba faint sydd gennych chi?

Mae nifer o ddewisiadau ar gael. Bydd ein hymgynghorwyr yn gallu penderfynu pa rai yw'r orau ar eich cyfer.

Beth fydd cost y newidiadau?

Ffoniwch ni i drafod eich anghenion a gallwn fynd trwy'r prisiau gyda chi. Mae bron bob amser yn rhatach ailgylchu na thaflu i ffwrdd.  

Rydym yn hapus i drafod yr holl ddewisiadau gyda chi a helpu i gael ateb i'r hyn a fydd yn gweithio orau i'ch anghenion unigol chi.

Beth os nad oes gennyf le ar gyfer biniau ychwanegol?

Gallem roi biniau mwy i faint i chi a fydd yn rhoi mwy o le ar gyfer gwastraff gweddilliol/cyffredinol ac ailgylchu, gyda dim ond y cynnydd lleiaf yn y lle cadw fydd ei angen.

Rydym yn hapus i drafod y dewisiadau gyda chi a helpu i gael ateb i'r hyn a fydd yn gweithio orau i'ch anghenion unigol chi.

A gaf fynd â gwastraff gweddilliol/cyffredinol i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref?

Na chewch. Ni chewch fynd â gwastraff cyffredinol/gweddilliol masnachol i'r un o'n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Rydym yn cynnig trwydded i fynd â rhai mathau o wastraff ailgylchu masnachol, ond dim ond lle nad yw'n ymarferol i ni ei gasglu'n uniongyrchol o'ch busnes.

A gaf ofyn i rywun fynd ag unrhyw wastraff cyffredinol/gweddilliol ychwanegol i mi?

Mae cwmnïau eraill sy'n darparu gwasanaeth ar gyfer eich gwastraff gweddilliol. Peidiwch â gadael i neb fynd â'ch ysbwriel a'ch ailgylchu oni bai eich bod wedi gwirio eu bod yn gludwr gwastraff cofrestredig, a'u bod yn mynd â'ch gwastraff i safle sy'n drwyddedig i dderbyn gwastraff masnachol. Byddwch yn cael dirwy os nad oes ganddynt drwydded.

A ydych yn meddwl y bydd y newidiadau hyn yn arwain at fwy o dipio ar y slei/tipio anghyfreithlon?

Nac ydyn. Mae tipio'n slei bach yn weithgaredd anghyfreithlon y mae troseddwyr yn ei wneud ac ni fyddwn yn disgwyl i'n cwsmeriaid droi at y mesurau hynny. Mae dyletswydd gofal ar bob busnes, sefydliad ac elusen, yn ôl y gyfraith, i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu'n gywir

Rydym yn archwilio i bob digwyddiad o dipio anghyfreithlon ac yn dirwyo ac yn erlyn y troseddwyr. Gall dirwyon amrywio o £300 i filoedd o bunnoedd.

Beth fydd yn digwydd os na wnaf newidiadau i fy ngwasanaeth?

Os nad ydych yn cysylltu â ni i wneud unrhyw newidiadau i'ch gwasanaeth ar gyfer Ebrill 2022 ymlaen, byddwn yn dechrau casglu'ch gwastraff cyffredinol/gweddilliol bob pythefnos yn y flwyddyn ariannol newydd. Ni fyddwn yn mynd â gwastraff ychwanegol nad yw'n ffitio yn y biniau. Wedyn byddwn yn codi tâl arnoch am y casgliadau bob pythefnos yn unig, sef hanner eich costau ar hyn o bryd.

Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau pa mor aml y byddwn yn casglu, y dyddiadau, a'r costau ar gyfer eich gwasanaeth o fis Ebrill 2022 maes o law.

Mae'r bin gwastraff gweddilliol/cyffredinol sydd gennyf yn cynnwys cynhyrchion hylendid sugno (cewynnau/clytiau, padiau anymataliaeth). A fyddwch yn casglu'r bin bob wythnos o hyd?

Na fyddwn. Bydd ein casgliadau ar gyfer gwastraff gweddilliol/cyffredinol yn digwydd bob pythefnos neu bob yn bedair wythnos o fis Ebrill 2022.

Ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu a all peri i'ch bin ddrewi neu'i ddifwyno, rydym yn argymell eich bod yn ei roi mewn bag, i gadw unrhyw ddrewdod a/neu faeddu, cyn ei roi yn y bin. Rydym yn casglu'r gwastraff yma gan breswylwyr bob yn dair wythnos fel rhan o'u casgliad gwastraff gweddilliol heb ddim trafferthion.

A fydd Ailgylchu Masnachol Powys yn glanhau'r bin rhwng casgliadau?

Na fyddwn. Chi sy'n gyfrifol am gadw eich biniau a'ch blychau gwastraff yn lân.

Os byddwch yn tynnu'r holl wastraff bwyd a'i ailgylchu'n gywir, dylai'r biniau gwastraff gweddilliol/cyffredinol aros yn gymharol lân. O ran gwastraff na ellir ei ailgylchu sy'n dueddol o faeddu'ch bin neu wneud iddo ddrewi, rydym yn argymell eich bod yn ei roi mewn bag, i gadw unrhyw ddrewdod a/neu faeddu, cyn ei roi yn y bin.

Beth fydd yn digwydd os na allaf ddod i ben heb gasgliadau gwastraff gweddilliol/cyffredinol wythnosol?

Ffoniwch ni. Rydym yn fwy na pharod i drafod y dewisiadau â chi a'ch helpu i gael ateb i'r hyn a fydd yn gweithio orau i'ch anghenion unigol chi.

Os na allwch chi ddod i ben o gwbl heb gasgliadau wythnosol, efallai y byddwch yn gallu cael hyd i gwmni rheoli gwastraff trwyddedig arall. Gallan nhw wedyn gasglu'ch gwastraff gweddilliol/cyffredinol yn fwy aml.

Os hoffech ganslo'ch contract gyda ni, byddwn yn tynnu'r holl finiau ar ddiwedd mis Mawrth cyn i'r casgliadau newydd ddechrau ym mis Ebrill, oni bai'ch bod yn gofyn fel arall.