Toglo gwelededd dewislen symudol

Ailgylchu ac ailddefnyddio - eitemau o'r tŷ

Mae Gwasanaeth Glanhau Powys yn gweithio ochr yn ochr â'r tim atal a lleihau digartrefedd ym Mhowys ac yn chwilio am eitemau di-angen o'r tŷ y gellir eu hailgylchu er mwyn eu rhoi i bobl ym Mhowys sy'n agored i niwed neu'n llai breintiedig.

Cyn cyflwyno eich cynnig, dylech fod yn ymwybodol o'r canlynol:

  • Dylai eitemau fod heb ddifrod, yn gweithio'n dda ac yn lân.  (Nid ydym yn gallu gwneud unrhyw waith trwsio)
  • Dylai eitemau wedi'u clustogi fod â'r labeli diogelwch atal tân gwreiddiol arnynt.
  • Nid ydym yn derbyn eitemau dodrefn gwydr, unedau wal/arddangos, desgiau, dreser na bwrdd gwisgo.
  • Gallwn dderbyn poptai trydan ond nid rhai nwy.

Mae'r casgliad am ddim a'r amserlenni'n amrywio.

Rhoi rhodd Rhoi rhodd i'r cynllun ailgylchu ac ailddefnyddo.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01597 827396 neu anfonwch e-bost i mobileservicesupport@powys.gov.uk